Cynllun cartrefi uwch-dechnoleg ar gyfer y dyfodol yn ennill gwobr Brydeinig nodedig

0
396

Mae datblygiad tai hynod arloesol yng Nghaerdydd sy’n creu cartrefi’r dyfodol heddiw wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig am ei gynaliadwyedd, ei gwydnwch o ran yr hinsawdd a’i hôl troed carbon isel.

Yng ngwobrau blynyddol Eiddo Preswyl RESI yn Grosvenor House, Llundain, dyfarnwyd y brif wobr i Gyngor Caerdydd a’i bartner datblygu cynllun Cartrefi Caerdydd, Wates Residential, yn y categori Menter Argyfwng Hinsawdd – Preswyl.

Mae Llwyn Aethnen yn Nhredelerch yn gynllun arloesol sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain a dderbyniodd £4.1m o gyllid Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor a Wates Residential yn gweithio gyda chwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy o Gaerdydd, Sero, i ymgorffori technolegau carbon isel yn y datblygiad a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sy’n darparu cynnyrch ‘morgais gwyrdd’ i brynwyr tai ar y safle.

Mae cyfanswm o 214 o gartrefi – cymysgedd o eiddo gwerthu preifat a chartrefi fforddiadwy i’w rhentu gan y cyngor ar eu ffordd i’r dwyrain o’r ddinas, fel rhan o raglen gyffredinol Cartrefi Caerdydd i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd.

Y safle yw’r cyntaf yn ein rhaglen i dargedu Safon Barod Carbon Sero Net ar raddfa sylweddol ac mae’n chwarae rhan bwysig yn strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030, ei strategaeth Tlodi Tanwydd a dull parhaus Wates o ddatblygu cartrefi carbon/ynni isel.

Bydd y safle yn cynnwys 65 o gartrefi cyngor newydd, y bydd 44 ohonynt yn fflatiau Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl hŷn, a bydd 149 eiddo ar werth ar y farchnad agored.  Bydd tai cyngor a thai gwerthu yn cael eu hadeiladu i’r un safonau perfformiad ynni sy’n canolbwyntio ar ddull ‘adeiladwaith yn gyntaf’ ac yn ymgorffori pympiau gwres o’r ddaear, cyfleusterau storio thermol clyfar, paneli ffotofoltäig, batris storio a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.

A chyda’r cynyddiadau presennol ym mhrisiau ynni, bydd cyflwyno’r dechnoleg newydd hon yn helpu i leihau effaith y farchnad ynni ar aelwydydd drwy eu galluogi i fod yn llai dibynnol ar y grid cenedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae’r Cyngor wrth ei fodd o ennill y wobr hon, gyda’n partneriaid Wates Residential a chyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae’n dangos ein bod yn arwain y ffordd o ran datblygu cartrefi carbon isel sy’n defnyddio ynni’n effeithlon – gan fynd â’r term ‘eco-gyfeillgar i’r lefel nesaf.

“Llwyn Aethnen yw’r cynllun mwyaf yn y cam cyntaf ein rhaglen Cartrefi Caerdydd sy’n darparu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen ar y ddinas i ateb y galw mawr, nid yn unig yn y sector cymdeithasol ond hefyd yn y farchnad breifat.

“Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio i Safon Dylunio Cartrefi Caerdydd – ein meincnod uchel ein hunain sy’n canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, effeithlonrwydd ynni ac ansawdd dylunio wrth i ni anelu at adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y dyfodol sy’n hyrwyddo creu lleoedd a chymunedau cynaliadwy.

“Mae’r Cyngor wedi nodi ei ymateb i’r argyfwng hinsawdd gydag amrywiaeth o gamau uchelgeisiol i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Bydd cynlluniau arloesol fel Llwyn Aethnen, a’r safon y mae’n ei gosod ar gyfer gweddill ein cynlluniau adeiladu tai dros y blynyddoedd nesaf, yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn cyflawni’r nod hwnnw.”

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: “Mae’r wobr genedlaethol hon, i gydnabod ein cynllun trawsnewidiol sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain/Llwyn Aethnen, yn tynnu sylw at sut mae Wates Residential yn cydweithio â Chyngor Caerdydd i ddod o hyd i ffyrdd gwell a mwy arloesol o leihau gwastraff, lleihau’r defnydd o ynni a gwella’r amgylchedd naturiol. Mae’r datblygiad hwn yn un o lawer yn y ddinas, lle rydym hefyd yn defnyddio technolegau modiwlaidd a Passivhaus i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd i gefnogi taith y Cyngor i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.”

Meddai Andy Sutton, Prif Swyddog Arloesi Sero: “Mae Sero wrth ei fodd bod ei waith gyda Chyngor Caerdydd a Wates Residential yn Aspen Grove wedi cael ei gydnabod a’i arddangos ar lefel genedlaethol.  Gyda’n mewnbwn o ddylunio manwl hyd at weithredu’r cartrefi, bydd y cartrefi hyn yn dod yn rhai Carbon Sero-net heb fod angen unrhyw fesurau ôl-ffitio yn y dyfodol i helpu i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd. Yn y tymor byr, mae’r cartrefi carbon isel iawn hyn, ynghyd â’n system optimeiddio’r cartref a reolir yn syml, yn sicrhau bod y preswylwyr newydd yn cael eu diogelu cymaint â phosibl rhag yr argyfwng prisiau ynni presennol.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: “Llongyfarchiadau i Gyngor Caerdydd a Wates Residential ar ennill y wobr fawreddog hon.

“Mae datblygiad Aspen Grove yn arddangos yn union y math o gartrefi carbon isel a chynaliadwy y mae angen i ni eu hadeiladu yng Nghymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd byw pobl ac hefyd, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Ar adeg pan fo costau’n codi, bydd y mesurau ynni effeithlon arloesol sydd wedi’u cynnwys yn y cartrefi rhent cymdeithasol a chartrefi’r farchnad ar y datblygiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filiau tanwydd trigolion.”

Mae gwaith ar safle Llwyn Aethnen, sydd hefyd yn gartref i’r Academi Adeiladu ar y safle, De-ddwyrain Cymru sy’n darparu hyfforddiant a phrofiad ar y safle i brentisiaid, yn mynd rhagddo’n dda a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.

Yn dilyn llwyddiant yng ngwobrau’r RESI, mae partneriaid Cartrefi Caerdydd bellach yn edrych ymlaen at wobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru yng Ngwesty’r Celtic Manor y mis nesaf lle mae Llwyn Aethnen wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori‘r Prosiect Sero Carbon Net Gorau a chynlluniau Cartrefi Caerdydd eraill ac mae Crofts Street a Silvervale Park wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Prosiect DAM (Dulliau Adeiladu Modern)/Modiwlaidd Gorau a Phrosiect Preswyl Gorau’r Flwyddyn, yn y drefn honno.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle