Gwasanaeth Gwaed Cymru Datganiad i’r Wasg
Welsh Blood Service Press Release
Cafodd Simona Dubas, mam o Gasnewydd, ddiagnosis o ganser yn 27 oed. Bellach wedi gwella’n llwyr, yn dilyn trawsblaniad bôn-gelloedd llwyddiannus, mae Simona yn annog mwy o bobl ifanc ledled Cymru i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru ar Ddiwrnod Canser Gwaed y Byd (28 Mai).
Pan oedd ei mab Frank yn ddim ond pedair oed, darganfu Simona fod ganddi ganser y gwaed a elwir yn lewcemia myeloid acíwt. Ar ôl tair rownd aflwyddiannus o gemotherapi dwys, cafodd Simona drawsblaniad bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd yn 2018 ar ôl dod o hyd i roddwr benywaidd a oedd yn cydweddu’n berffaith o’r Almaen.
Ar ôl cael diagnosis, dywedodd Simona, “I ddechrau, doeddwn i ddim yn deall difrifoldeb y sefyllfa. Roeddwn yn poeni mwy am yr ochr ymarferol o fod yn yr ysbyty. Er enghraifft, pwy sy’n mynd i ofalu am fy mab pan fydd fy ngŵr yn y gwaith?”
Er i Simona fynd ymlaen i wella’n llwyr, ni fydd tua 30% o gleifion canser y gwaed yn dod o hyd i rodd mêr esgyrn sy’n cydweddu angenrheidiol a fydd o bosib yn achub ei bywyd.
Heddiw, mae Simona a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog mwy o bobl ifanc 17 i 30 oed i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.
Dywedodd Simona, “Mae dod yn rhoddwr bôn-gelloedd yn bwysig iawn oherwydd mae’r siawns y bydd aelod o’r teulu yn cydweddu â’r claf yn eithaf isel.”
“Pan wnes i ddarganfod bod rhoddwr wedi’i baru â mi, roeddwn i’n ddiolchgar dros ben, ac wedi fy llethu gyda’r ffafr anhunanol. Mae’n rhywbeth na allwch ei ddisgrifio mewn geiriau.
“I lawer o bobl sydd â chanser y gwaed ac anhwylderau gwaed eraill, trawsblaniad yw eu hunig gyfle i wella o’u salwch. Os ydych chi’n ystyried cofrestru, meddyliwch pa mor falch fyddech chi pe byddech chi’n achub bywyd rhywun.”
Ledled y byd, mae dros 50,000 o gleifion y flwyddyn yn gobeithio dod o hyd i rywun sydd ddim yn perthyn sy’n addas ar gyfer trawsblaniad mêr esgyrn.
Mae dwy ffordd y gall gwirfoddolwyr gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, drwy ofyn am becyn swab drwy Wasanaeth Gwaed Cymru neu drwy ddarparu sampl gwaed ychwanegol wrth roi gwaed.
Dywedodd Dr Keith Wilson, Hematolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru:
“I lawer o gleifion â chanser y gwaed, trawsblaniad bôn-gelloedd yw eu cyfle gorau i wella’n llawn, fodd bynnag, dim ond 25 y cant o gleifion fydd yn dod o hyd i roddwr o fewn eu teulu. Mae’r mwyafrif llethol yn dibynnu ar wirfoddolwyr sydd ddim yn perthyn i gael unrhyw obaith o wella o’u salwch.
Mae canserau gwaed yn atal mêr esgyrn rhag gweithio’n gywir, ac i’r cleifion hyn, y gobaith gorau o wella yw cael trawsblaniad bôn-gelloedd. Mae trawsblaniad bôn-gelloedd yn disodli celloedd sydd wedi’u difrodi â rhai iach ac yn aml dyma’r opsiwn olaf o ran triniaeth ar gyfer cleifion canser y gwaed yn dilyn radiotherapi a chemotherapi.
Parhaodd Dr Wilson, “Mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i ymuno â’r Gofrestrfa oherwydd bod mathau newydd o feinwe yn cael eu darganfod o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r rhai sydd angen trawsblaniad yn dibynnu ar roddwr sydd â math o feinwe sy’n cydweddu, felly po fwyaf yw’r gronfa o roddwyr, y gorau yw’r siawns o ddod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar gyfer y cleifion hyn.”
Dywedodd Dr Tracey Rees, Prif Swyddog Gwyddonol Gwasanaeth Gwaed Cymru:
“Mae Diwrnod Canser Gwaed y Byd yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar ddiolch i’r rhai sydd wedi cofrestru fel rhoddwyr posibl a’r rhai sydd wedi mynd ymlaen i roi eu bôn-gelloedd.
“Mae’r weithred anhunanol hon yn dod â gobaith i gynifer o gleifion a’u hanwyliaid, ond mae llawer i’w wneud o hyd i ni ymestyn y cyfle hwn i bawb sydd angen rhoddwr sydd ddim yn perthyn.
“Er bod miliynau o roddwyr wedi’u cofrestru ledled y byd, ni fydd rhai cleifion yn dod o hyd i’r rhoddwr sy’n cydweddu sydd eu hangen arnynt. Mae mor bwysig bod pobl ifanc yn parhau i ymuno â’r Gofrestrfa.”
Os ydych rhwng 17 a 30 oed, ewch i welshblood.org.uk i ddechrau eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle