Caiff prosiect ffilmiau unigryw a ddaeth â myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a’r gymuned ynghyd i arddangos harddwch Gŵyr ei lansio’n swyddogol fis nesaf.
Mae’r gyfres ddogfen Gŵyr yn gasgliad o ffilmiau sy’n dangos elfennau o hanes, diwylliant, ecosystemau ac adnoddau naturiol lleol.Fe’u crëwyd gan brosiect cymunedol nid-er-elw lle rhannodd preswylwyr eu profiadau wrth weithio gyda myfyrwyr a gwneuthurwyr y ffilmiau.
Bu Georgios Dimitropoulos, darlithydd y cyfryngau a chyfathrebu, yn arwain y prosiect a bydd y ffilmiau i gyd ar gael am ddim ar YouTube yn dilyn dangosiad cyntaf arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ar 10 Mehefin.
Bydd y digwyddiad yn nodi diwedd prosiect cydweithredol pum mlynedd o hyd rhwng 25 o fyfyrwyr a mwy na 40 o gyfranwyr sy’n amrywio o breswylwyr Gŵyr, ffermwyr, amgylcheddwyr a gwyddonwyr, i academyddion, haneswyr ac ysgolheigion ymchwil.
Meddai Georgios: “Mae’r prosiect wedi ein galluogi i gynnig profiadau dysgu ac addysgu ymarferol i fyfyrwyr, yn ogystal â rhoi cyfle i ni gyfathrebu â’r gymuned a’r sector preifat, cydweithredu â’r trydydd sector a meithrin partneriaethau â diwydiannau creadigol.
“Nod ein ffilmiau yw cyflwyno cymysgedd a chyfuniad cydnaws o ddiwylliant Cymreig dros amser. Ein cenhadaeth yw dangos a dogfennu harddwch naturiol a nodweddion diwylliannol, hanesyddol ac amgylcheddol Gŵyr.”
Ar gyfer y prosiect, bu’r tîm yn cydweithredu â Vincent De Paul, actor a chynhyrchydd arobryn, a wnaeth gymryd rhan yn y ffilmiau a’u cynrychioli mewn gwyliau ffilmiau ledled y byd, yn ogystal â dangosiadau preifat gyda swyddogion gweithredol o Hollywood. Hyd yn hyn, mae’r gyfres Gŵyr wedi ennill 17 o wobrau am raglen ddogfen orau, ffilm orau a sinematograffi gorau.
Mae Georgios bellach yn awyddus i weld y ffilmiau’n cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib. Meddai: “Mae hi wedi cymryd pum mlynedd i greu’r gyfres, ac mae hi wedi bod yn daith hir a hyfryd.
“Rydyn ni am i’n gwaith fod ar gael i bawb ei weld. Ond dim ond y dechrau yw hwn. Rydyn ni’n bwriadu parhau â’r prosiect a chreu cyfres arall o ffilmiau.”
Meddai’r Athro Cysylltiol Richard Thomas, Pennaeth Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu: “Mae gwaith Georgios yn enghraifft wych o’r ffordd y mae ein myfyrwyr yn cael eu hintegreiddio yn ein prosiectau proffesiynol – mae’r profiad gwaith yn amhrisiadwy iddyn nhw. Elfen allweddol o lwyddiant ein hadran yw bod ein gweithgarwch addysgu bob amser yn berthnasol i’r mathau o swyddi y gallai ein graddedigion eu cael ar ôl eu graddau.”
Dywedodd un o’r myfyrwyr a gymerodd ran fod y prosiect wedi bod yn gyffrous iawn: “Dangosodd ef safonau proffesiynol i ni.
Meddai un arall: “Mae gan Hyb Ffilmiau’r Brifysgol gyfleusterau anhygoel ac roedd y broses ffilmio’n gyfle i ni feithrin dealltwriaeth well o’r maes.” Dywedodd un arall fod y profiad yn antur ac yn her. “Byddwn i’n cymryd rhan eto’n bendant,” ychwanegodd hi.
Ychwanegodd yr Athro Siân Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: “Dyma enghraifft wych o’r ffordd y mae staff a myfyrwyr yn yr Ysgol yn cysylltu â’n hamgylchedd a’n diwylliant lleol, gan ein gosod ein hunain wrth wraidd ein cymuned leol a’r gymuned ehangach yng Nghymru. Rhoddwyd cyfle amhrisiadwy i’n myfyrwyr hefyd ddeall gwaith cynhyrchu’r cyfryngau proffesiynol creadigol yn ymarferol a chael profiad ohono.”
Bydd y gwesteion yn y dangosiad cyntaf yng Nghanolfan Taliesin yn cynnwys y rhai a fu’n cydweithredu ar y prosiect a chynrychiolwyr Cymdeithas Gŵyr, yn ogystal â Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, sy’n cynrychioli Gŵyr yn y Senedd, a Mike Day, Arglwydd Faer Abertawe, y bydd y ddau ohonynt yn cymryd rhan yn y drafodaeth banel.
Cyflwynir yr enillion o werthu tocynnau i The DPJ Foundation, sef elusen iechyd meddwl sy’n cefnogi’r gymuned amaethyddol ledled Cymru. Fe’i dewiswyd gan wneuthurwyr y ffilmiau ar ôl treulio amser yng nghymuned ffermio Gŵyr.
Ychwanegodd Georgios: “Rydyn ni’n meddwl yn aml fod ffermwyr yn galed o ganlyniad i’w gwaith corfforol drwm ond oherwydd yr amodau caled hynny, mae angen cefnogaeth a chydnabyddiaeth ar ffermwyr gweithgar am eu hymdrechion a’u cyfraniad at ein cymdeithas.
“Rwy’n credu bod ffilmiau dogfen yn cynnig safbwyntiau gwahanol, yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau, yn hyrwyddo themâu penodol, ardaloedd, hanes a byd natur, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o broblemau sy’n dod i’r amlwg ac atebion posib. Mae ffermio ymysg y meysydd rydyn ni’n eu dogfennu ac yn eu cyflwyno yn ein ffilmiau dogfen wrth i ni archwilio ei bwysigrwydd i ddyfodol cynaliadwy.”
Mae tocynnau ar gael ymlaen llaw neu yn y lleoliad cyn y dangosiad cyntaf.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle