Canolfannau brechu torfol BIP Hywel Dda ar gau yn ystod gŵyl banc y Jiwbilî 

0
339

Bydd canolfannau brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda ar gau rhwng dydd Iau 2 a dydd Sul 5 Mehefin ar gyfer gŵyl banc y Jiwbilî.

Bydd canolfan frechu torfol Aberystwyth yn Llyfrgell Thomas Parry hefyd ar gau ddydd Llun 6 a dydd Mawrth 7 Mehefin. Bydd pob canolfan frechu torfol arall yn ailagor ddydd Llun 6 Mehefin ar gyfer apwyntiadau a galw heibio ac eithrio canolfan frechu torfol Dinbych-y-pysgod sydd ond ar agor o ddydd Gwener i ddydd Sul.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda, “Dyma’r cyfnod hiraf y mae ein canolfannau brechu wedi cau yn ystod y rhaglen, a gobeithiwn y bydd ein staff a’n gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i fwynhau gŵyl y banc.

“Bydd nifer fach o staff yn parhau i weithio i gefnogi’r gwaith parhaus o frechu cleifion sy’n gaeth i’r cartref.”

Rydym yn argymell yn gryf bod pobl yn gwirio’r oriau agor galw heibio cyn teithio oherwydd efallai y byddant yn newid, trwy fynd i biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19 neu ffonio 0300 303 8322.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle