Maeâr cynorthwyydd dysgu Carys Jones wedi codi mwy na ÂŁ9,000 ar gyfer #ApĂȘlCemoBronglais gyda thaith gerdded 40 milltir a rhediad tractor.
Mae hi’n gobeithio cyrraedd ÂŁ10,000 drwy gynnal noson bingo gyda raffl yng Nghlwb Rygbi #Tregaron ar 2 Mehefin am 7pm, ac mae croeso i bawb.
Cerddodd Carys a mwy nag 20 o deulu a ffrindiau â gan gynnwys ei brawd Aled Jones, ei chwaer Gwenan Hodgson aâi efaill Caryl Jones â 40 milltir mewn 24 awr oâr clwb rygbi i Ysbyty #Bronglais ac yn ĂŽl.
âMae ein mam, Glenys, yn cael cemotherapi ar hyn o bryd ac mae hiân dweud bod y staff yn wych,â meddai Carys. âRydym mor ffodus i gael yr uned yn agos atom a bydd cael uned newydd bwrpasol gyda mwy o breifatrwydd hyd yn oed yn well.
âAeth y daith gerdded yn dda iawn. Cawsom gymaint o gefnogaeth ac rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn amdano. Roedd mam wrth ei bodd.
âHefyd fe drefnodd ein hewythr Rhydian Lloyd rediad tractor oâr clwb rygbi ar lwybr gwledig 14 milltir yn ĂŽl iâr clwb i hybuâr codi arian, a ddenodd fwy na 30 o dractorau.â
Os hoffech chi gyfrannu at godwr arian Carys, ewch i https://hyweldda.enthuse.com/pf/carys-jones
Nod ApĂȘl Cemo Bronglais yw codiâr ÂŁ500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ApĂȘl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle