Parti, lansiad a gemau – Y Mentrau Iaith â stondin lawn dop ar Faes yr Urdd!

0
359

Bydd croeso i blant bach – a mawr – ddod draw at babell Mentrau Iaith Cymru ar y cyd gyda Menter Iaith Sir Ddinbych ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych yr wythnos nesaf. Bydd parti yn cael ei gynnal ar y stondin ar y dydd Llun i ddathlu cyhoeddi llyfrau Magi Ann mewn lliw, gyda digonedd o gacennau a diod meddal a chyfle i bartïo gyda Magi Ann ei hun. Medd Gill Stephen o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Mae Magi Ann yn gymeriad poblogaidd iawn sydd wedi diddanu plant o fewn cloriau ei llyfrau du a gwyn ers i’r awdures, Mena Evans, eu hysgrifennu flynyddoedd yn ôl. Ond mae Magi Ann, fel pawb, yn datblygu ac wastad yn barod i fanteisio ar gyfleoedd gwahanol i estyn allan at blant. Un datblygiad oedd gwaith y Fenter ar greu 6 o apiau rhyngweithiol yn cynnwys holl storïau Magi Ann, a’r datblygiad diweddaraf yw cyhoeddi 10 llyfr mewn lliw diolch i gwmni cyhoeddi Atebol.”

Bydd lansiad y llyfrau yn digwydd ym mhabell Llywodraeth Cymru ar ddydd Mercher, gyda pharti dathlu y dydd Llun cynt fydd hefyd yn cynnwys ‘Bwrdd Llun’ a chyfle i’r plant gael tynnu eu llun gyda Magi Ann a’i ffrindiau.

Mae gan Magi Ann lawer o ffrindiau a bydd un ohonynt, Tedi, yn hawlio dydd Mawrth i lansio cyfres o 16 fideo arbennig. Mae’r fideos hyn yn helpu teuluoedd gyda phlant ifanc i gael hwyl a chadw’n heini ar eu aelwyd eu hun. Yn ystod parti ‘Symud Gyda Tedi’ bydd un o sêr y fideos, y ddawnswraig a hyfforddwraig ffitrwydd Hanna Medi, yn arwain sesiwn byw Symud gyda Tedi – ac mae croeso mawr i unrhyw deulu ifanc ymuno yn yr hwyl.

Ganol yr wythnos, bydd cyfle i blant ychydig yn hŷn ddysgu am hanes lleol trwy adeiladu gyda Lego a Minecraft a chymryd rhan mewn sesiynau gemau fideo. Mae’r gemau fideo yn annog defnydd naturiol o’r Gymraeg rhwng plant yn eu harddegau ac yn boblogaidd tu hwnt ar draws gogledd Cymru gyda’r Mentrau Iaith yn trefnu nifer o gystadlaethau rhwng plant o Fôn drosodd i’r Fflint. Medd Gwion Tomos-Jones o Fenter Iaith Sir Ddinbych:

“Rydym fel Menter Iaith wedi bod yn cyd-weithio hefo Mentrau eraill y gogledd, yn creu cymuned o chwaraewyr fideo Cymraeg. Mae’r gemau hyn yn cynnwys Minecraft, Fortnite ac Among Us. Mae’r plant wrth eu bodd yn trafod, dadlau, brwydro a chwerthin gyda’i gilydd ar-lein mewn awyrgylch saff a hwylus a Chymraeg.”

Bydd stondin y Mentrau Iaith yn cymryd gwedd wahanol o ddydd Iau ymlaen a chael ei drawsnewid i adlewyrchu a chynnig naws gŵyl. Mae hyn er mwyn hyrwyddo a dwyn sylw at yr holl wyliau a nosweithiau a digwyddiadau cerddorol sydd yn cael eu trefnu gan y Mentrau Iaith ar draws Cymru. Bydd Menter Iaith Môn yn cynnal sesiynau ukelele ar y stondin ddydd Iau ac wrth edrych ymlaen at noson olaf Gŵyl Triban a fydd ar y maes, bydd perfformiad acwstig gan y canwr lleol Morgan Elwy am 1pm ddydd Sadwrn, 4ydd o Fehefin.

Mae’r Mentrau Iaith yn annog a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau a byddwn yn symboleiddio hyn drwy gynnig pecyn o hadau blodau haul i ymwelwyr ein stondin o ddydd Iau ymlaen, gan annog pawb i blannu’r hadau, gofalu amdanynt a’u gweld yn blaguro a chyfoethogi gardd neu silff ffenestr. Byddwn yn gofyn i bobol ein tagio mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn gweld tyfiant yr holl flodau haul gan ddefnyddio #BlodynHaul. Dyma gwpled gyfansoddwyd i’r Mentrau Iaith gan y prif fardd Aneirin Karadog sydd yn gweddu i’r dim:

Daw hafau’r iaith o’r dyfrhau

Y tu ôl i’r petalau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle