Pwysau digynsail yng ngwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw 

0
361

Mae ein gwasanaethau brys a gofal heb ei gynllunio mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai o dan bwysau digynsail heddiw, a disgwylir i’r sefyllfa barhau hyd gychwyn wythnos nesaf. Os ydych chi neu anwylyd angen gofal mewn argyfwng neu ofal brys, gallwch chi helpu trwy ddefnyddio’r lefel gywir o wasanaeth i ddiwallu’ch angen. 

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn delio â chyfuniad o niferoedd uchel o bresenoldebau, yn enwedig yn ein Hadrannau Achosion Brys. 

“Gyda gwyliau’r banc o’n blaenau, rydym yn awyddus i unigolion ddewis y lefel orau o ofal sydd ei angen arnynt a’n helpu i leddfu’r pwysau ar ein Hadrannau Achosion Brys ac ar draws ein gwasanaethau, gan gynnwys ein meddygon teulu.

“Rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau lleol gan fod anawsterau rhyddhau rhai cleifion oherwydd heriau staffio tebyg y mae’r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu. Mae hyn yn golygu bod gennym nifer cyfyngedig iawn o welyau ar gael i ddarparu ar gyfer cleifion sydd angen eu derbyn. 

“Mae ein timau’n helpu cleifion yn nhrefn eu blaenoriaeth glinigol, ond mae hyn yn golygu, mewn rhai achosion, bod amseroedd aros yn ein Hadrannau Achosion Brys yn hir iawn ac yn llawer mwy na’r hyn y byddem yn ymdrechu i’w gyflawni.

“Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau a ddewiswch.” 

Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i’w wneud, gallwch ymweld â’r gwiriwr symptomau ar-lein neu ffonio GIG 111 os nad ydych yn siŵr pa gymorth sydd ei angen arnoch. 

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis: 

  • Anawsterau anadlu difrifol 
  • Poen difrifol neu waedu 
  • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc 
  • Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car) 

Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o’n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel: 

  • Mân glwyfau 
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau 
  • Brathiadau pryfed 
  • Mân anafiadau i’r goes, y pen neu’r wyneb  
  • Corffyn estron yn y trwyn neu’r glust 
  • Mae gennym ni fân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn ynn Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. 

Am oriau agor, edrychwch ar ein gwefan.  

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ 

Ceir gwybodaeth ychwanegol am sut i gael gafael ar ofal iechyd yn ystod gwyliau banc ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gwyliaur-banc-gofal-iechyd-cymunedol/

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyd yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael eich rhyddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i’w cefnogi gartref. 

Os yw’ch perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cymorth a gofal ar drefniant tymor byr, dros dro neu efallai y byddwch am ystyried a allai eich anwylyd gael cymorth mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio dros dro. Os teimlwch fod hwn yn opsiwn y gallech ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu’ch gweithiwr cymdeithasol i archwilio ymhellach a gweld pa gymorth sydd ar gael i chi. 

Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac yn golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol derbyniad i’r ysbyty, megis haint a gafwyd yn yr ysbyty, codymau a cholli annibyniaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses rhyddhau o’r ysbyty a chanllawiau yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/ 

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu’r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle