Cwsmeriaid TrC yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gŵyl y banc

0
259

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio dros ŵyl banc y Jiwbilî Platinwm, a disgwylir i wasanaethau rheilffordd fod yn brysur iawn

Mae nifer o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal ledled rhwydwaith rheilffyrdd TrC, gan gynnwys digwyddiadau sy’n dathlu saith degawd y Frenhines ar yr orsedd, gŵyl gerddoriaeth “In It Together” ym Mhort Talbot, cyngherddau cerdd yn Abertawe a Chaerdydd, brwydr teitl byd y bocsiwr Joe Cordina yn y Motorpoint Arena, a gêm ail gyfle hollbwysig tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae tywydd cynnes a heulog hefyd yn cael ei ddarogan, sy’n golygu y bydd cyrchfannau twristiaid fel Ynys y Barri, Dinbych-y-pysgod ac arfordir Gogledd Cymru hefyd yn debygol o weld niferoedd sylweddol o ymwelwyr yn ystod y dydd.

Mae nifer y teithwyr ar benwythnosau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf, felly bydd cynnydd pellach yn nifer y teithwyr yn golygu y bydd rhai trenau ar draws y rhwydwaith yn debygol o fod yn llawn a dim ond lle i sefyll yn unig.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud y mwyaf o’r capasiti sydd ar gael ac yn atgyfnerthu hyn lle bo angen gyda thrafnidiaeth ffordd atodol. Bydd mwy o staff yn bresennol ar draws y rhwydwaith hefyd i helpu cwsmeriaid dros y penwythnos.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn parhau i weld galw uchel iawn am ein gwasanaethau, yn enwedig ar adegau prysur, y penwythnosau ac yn ystod cyfnodau o dywydd da.  Mae’r holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth a lle bo modd, rydym yn darparu trafnidiaeth ffordd atodol.

“Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan y gwrthdrawiad trên diweddar gyda chloddiwr bach ger Craven Arms, sy’n golygu bod nifer o gerbydau allan o wasanaeth.  Fodd bynnag, bydd effaith y weithred droseddol ddifrifol hon yn parhau i gael effaith am gryn amser.

“Mae bellach yn bwysicach nag erioed i gynllunio ymlaen llaw gan ddefnyddio gwybodaeth ar ein gwefan newydd, ein ap a ddiweddarwyd yn ddiweddar neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Dylai teithwyr ystyried a ydynt am deithio ar drenau sy’n debygol o fod yn llawn ac a lle i sefyll yn unig, a defnyddio ein  Gwiriwr Capasiti – offeryn ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i weld pa drenau sy’n debygol o fod â’r mwyaf o le.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle