Bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros wyliau banc y Gwanwyn a’r Jiwbilî Platinwm.
Ni fydd bagiau glas, bagiau du a biniau bwyd yn cael eu casglu ddydd Iau, 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin, a chynghorir preswylwyr i roi eu sbwriel allan ar eu diwrnod casglu bagiau glas neu fagiau du nesaf. Mae biniau gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos.
Gellir hefyd mynd â bagiau du, bagiau glas a gwsatraff bwyd i unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf, sydd i gyd ar agor fel arfer ar y gwyliau banc . Cofiwch archebu apwyntiad ar wefan y cyngor.
Mae’r cyngor yn bwriadu casglu gwastraff hylendid a gwastraff gardd ar y diwrnodau hyn, ond mae ein criwiau’n debygol o ddechrau’n gynt nag arfer felly cynghorir preswylwyr i roi eu gwastraff allan y noson cyn y diwrnod casglu. Cadwch lygad ar dudalen Facebook y cyngor am unrhyw ddiweddariadau oherwydd gallai hyn newid mewn rhai ardaloedd ar fyr rybudd.
Gellir ailgylchu poteli a jariau gwydr yn y banc poteli agosaf, ewch i’r tudalennau ailgylchu ar wefan y cyngor am leoliadau.
Dywedodd Ainsley Williams, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ymddiheurwn i breswylwyr am unrhyw anghyfleustra a achosir. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal trafodaethau gyda’n criwiau a’r undebau mewn perthynas â graddfeydd cyflog sy’n golygu, yn anffodus, nad ydym mewn sefyllfa i gyflawni ein prif gasgliadau biniau dros wyliau’r banc. Rydym yn ymgysylltu â’r gweithlu a’r undebau ac rydym yn gobeithio dod i ddatrysiad cyn gynted â phosibl.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gadarnhau pryd mae eich casgliad, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle