Cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris

0
322

Mynegwyd cydymdeimladau dwysaf yn dilyn y newyddion am farwolaeth sydyn y Cynghorydd Hag Harris ddydd Mawrth, 31 Mai 2022.

Darparodd y Cynghorydd Hag Harris wasanaeth hirsefydlog i Geredigion a’i thrigolion wrth gael ei ethol gyntaf yn 1995, a chyn hynny, roedd yn Aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981. Roedd yn Aelod Cabinet rhwng 2012 a 2017 ac yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion rhwng 2018 a 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r newyddion trist hwn am ein cyfaill a’n cyd-weithiwr, y Cynghorydd Hag Harris, wedi dod yn sioc fawr i ni gyd. Cafodd ei ethol i Ward Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion yn 1995, a chyn hynny roedd yn Aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981. Roedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2018-2019 ac roedd yn llais clir a chadarn i’w drigolion ac i’r dref a oedd mor agos at ei galon. Roedd Hag wastad yn barod ei gymwynas ac i gynnig geiriau o gefnogaeth neu ddoethineb ar draws llawr y Siambr; mi welwn eisiau ei gymeriad hoffus. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i gymar yn eu profedigaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol: “Mae’r newyddion yma wedi dod yn sioc enfawr i ni gyd ac mae’n anodd credu. Mae’r gwaith a wnaed gan Hag a’i ymroddiad i’r sir dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac roeddwn yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef. Estynnwn ein cydymdeimladau i’r teulu ac i’r rhai agosach ato.”

Mae baneri’r Cyngor yn chwifio ar hanner mast er cof am fab hoffus a gwas ffyddlon i’r sir hon.

Hoffai’r Cyngor ofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod hwn o alar


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle