TUC Cymru yn ymuno â chynllun Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg 

0
403
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

  • TUC Cymru yn cadarnhau ymrwymiad i’r iaith Gymraeg drwy gyhoeddi Cynnig Cymraeg ar ddiwrnod cyntaf Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg, 1 Mehefin 
  • Bydd gweithwyr yng Nghymru yn awr yn gweld pa wasanaethau TUC Cymru sydd ar gael yn Gymraeg  
  • Mae TUC Cymru yn gobeithio y bydd y Cynnig Cymraeg yn gweld cynnydd pellach yn nifer yr aelodau o undebau yng Nghymru yn dilyn y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf bod yna 33,000 o aelodau newydd 

Heddiw, mae TUC Cymru wedi cyhoeddi ei Gynnig Cymraeg. Mae’n un o ddim ond 55 o sefydliadau yng Nghymru i ymuno â’r cynllun, a sefydlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.  

Mae Cynnig Cymraeg TUC Cymru yn dweud, wrth gyfathrebu â TUC Cymru, y gallwch ddisgwyl:  

  • Gweld bod llawer o wefan TUC Cymru yn ddwyieithog  
  • Gallu siarad ag aelod o staff sy’n gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith yn Gymraeg  
  • Derbyn ein e-gylchlythyrau yn ddwyieithog 
  • Anfon e-bost neu lythyr atom yn Gymraeg – byddwn yn ymateb yn yr un iaith   
  • Ein gweld yn defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymateb i’ch sylwadau Cymraeg yn Gymraeg  

Datblygwyd y cynllun Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt. Dyma hefyd y gydnabyddiaeth swyddogol a roddwyd gan y Comisiynydd i sefydliadau y maent wedi cydweithio â hwy i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. 

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:  

“Mae trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydyn ni eisiau i bawb allu cyfathrebu â ni yn eu dewis iaith. Rwyf wrth fy modd bod ein Cynnig Cymraeg wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg. 

“Yr wythnos diwethaf clywsom fod 33,000 o aelodau newydd wedi ymuno ag undebau llafur yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd llawer ohonynt yn siaradwyr Cymraeg ac rydym am iddynt deimlo bod croeso iddynt yn ein mudiad.  

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd bod yn agored am ein hymrwymiad i gyfathrebu’n ddwyieithog yn helpu i ddenu mwy o aelodau undeb, yn enwedig gweithwyr iau sy’n fwy tebygol o siarad Cymraeg.  

“Gan fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod, bydd TUC Cymru yn gweithio gydag undebau llafur i sicrhau bod ein mudiad yn gallu gwasanaethu ein cynrychiolwyr a’n aelodau yn eu dewis iaith. 

“Yn ein Cyngres yr wythnos diwethaf gwnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn cefnogi cynrychiolwyr undebau llafur i allu cynnal eu busnes undebol yn y Gymraeg drwy gynhyrchu a hyrwyddo deunyddiau cymorth dwyieithog.”    

Dywedodd Gwenith Price,  Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg: 

“Mae logo Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol o  ymrwymiad sefydliad i ddefnyddio’r Gymraeg. Pan fydd TUC Cymru yn defnyddio’r logo hwn ar-lein ac mewn digwyddiadau bydd yn rhoi hyder i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle