Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn annog trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i helpu’r GIG i fynd ymhellach drwy ymuno â Te Mawr y GIG

0
424

Ddydd Mawrth 5ed Gorffennaf, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwahodd pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ymuno â the parti mwyaf y GIG hyd yma drwy gynnal eu Te Mawr GIG eu hunain ar ben-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 74 oed.

Wedi’i arwain gan NHS Charities Together, mae Te Mawr y GIG yn dod â’r genedl ynghyd i ddathlu pen-blwydd ein hannwyl GIG, gan ddiolch i’r gweithlu, tra’n codi arian i ddarparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar staff, cleifion a gwirfoddolwyr. Gall cymunedau ddathlu drwy wneud amser i de – trysor cenedlaethol arall!

Y llynedd ymunodd mwy na 4,800 o westeion, gan godi dros £500,000 ar y cyd. Yn ogystal ag unigolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau, roedd mwy na 150 o elusennau GIG yn cymryd rhan, gan gynnwys Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cynnal Te Mawr y GIG yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau, cael paned o de a chodi arian i ddweud diolch i’ch GIG lleol.”

Eleni, mae NHS Charities Together yn gobeithio gwneud y digwyddiad yn De Mawr y GIG mwyaf hyd yma, gyda tharged codi arian ar y cyd o dros £775,000. Bydd hyn yn cynnwys rhoddion gan noddwyr corfforaethol gan gynnwys y prif noddwr Morrisons, a gefnogodd yr ymgyrch drwy godi £250,000 y llynedd ac a fydd yn annog eu cwsmeriaid a’u staff i gymryd rhan unwaith eto.

Dywedodd Ellie Orton OBE, Prif Weithredwr NHS Charities Together: “Ni all y GIG wynebu pob her ar ei ben ei hun, ac mae’r rhwydwaith o elusennau GIG yn falch o fod wedi ariannu cannoedd o brosiectau anhygoel sy’n cefnogi staff, cleifion a chymunedau. Trwy gynnal te partis a gwahodd eich ffrindiau, cydweithwyr neu gyd-ddisgyblion, mae Te Mawr y GIG yn caniatáu i ni ddod at ein gilydd a dweud diolch yn fawr iawn i’n GIG anhygoel – yn enwedig wedi’r cyfan maen nhw wedi bod trwy’r ddwy flynedd ddiwethaf, a’r heriau parhaus maent yn parhau i wynebu.

“Felly, boed gartref, yn y swyddfa neu yn yr ysgol, rydyn ni’n gofyn i’r genedl roi’r tegell ymlaen, cydio yn y bisgedi, a chodi arian hanfodol i helpu’r GIG i fynd ymhellach ym mis Gorffennaf.”

Dywedodd Amanda Pritchard, Prif Weithredwr y GIG: “Nid oes unrhyw un yn y wlad sydd  heb gael ei gyffwrdd gan ddigwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf a staff y GIG ynghyd â’n gwirfoddolwyr gwych, gweithwyr a gadwodd ein siopau a’n gwasanaethau cyhoeddus i fynd a’r rhai a oedd yn cadw ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ar agor.

“Mae Te Mawr y GIG yn gyfle gwych i gymunedau ddod at ei gilydd a thalu teyrnged i staff a gwirfoddolwyr gwych, sydd wedi mynd gam ymhellach yn ystod y pandemig i’n cadw ni a’n hanwyliaid yn ddiogel.

“Mae effeithiau’r pandemig yn dal i gael eu teimlo hyd yn oed wrth i’r GIG a’r wlad nawr edrych i wella ac ailadeiladu, felly mae cefnogaeth barhaus cymunedau lleol yn parhau i fod mor hanfodol ag y mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.”

I gofrestru i gynnal eich digwyddiad Te Mawr y GIG eich hun a derbyn pecyn cymorth codi arian, ewch i https://www.nhsbigtea.co.uk/find?charityId=248203


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle