Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe

0
382
Cwtsh Hostel

Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.

Mae’r Oyster House, y Mwmbwls wedi agor ei ddrysau yn barod ar gyfer hanner tymor, ar ôl derbyn cyllid gwerth £2 miliwn ar ffurf benthyciad gan Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru. Mae’r gwesty bwtîc 16 ystafell wely a bwyty wedi creu 29 o swyddi cyfwerth â llawnamser.     

Dywedodd y datblygwr, James Morse, “Ar ôl inni ddatblygu cam un yn Oyster wharf a gweld faint o ymwelwyr roedd e’n eu denu, sylweddolais i fod angen gwesty bwtîc o ansawdd uchel yn y Mwmbwls . Mae’r gwesty a’r bwyty, sy’n cael eu gweithredu gan City Pub Group, yn darparu ystafelloedd ffasiynol unigryw sydd â golygfeydd o’r môr â’r pentref, a ffitiadau ac offer moethus.”

Yng nghanol dinas Abertawe, gwelodd Llyr Roberts fwlch yn y farchnad ar gyfer hostel canol dinas, ac agorodd Hostel Cwtsh ym mis Tachwedd 2021. Yn ddiweddar mae wedi derbyn gradd hostel pum seren, gan ei wneud yr unig hostel pum seren yn ne Cymru. Mae’r hostel wedi derbyn cymorth gan y Gronfa i Fusnesau Bach a Micro a ariennir gan yr UE.

The Oyster House

Mae’n derbyn gwarbacwyr, fforwyr, teuluoedd, ysgolion a gweithwyr llawrydd ac mae’n cynnig pod a llety preifat. Mae beiciau trydan ar gael i’w hurio ac mae’r hostel yn cynnig dosbarthiadau blasu Cymraeg i westeion ac ymwelwyr. Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gweld y prosiect yn gyfle i ddatblygu ac arallgyfeirio’r farchnad ymwelwyr yn yr ardal. Dywedodd: “Hoffai Hostel Cwtsh wneud Abertawe yn gyrchfan sy’n denu pobl i’r ardal o bedwar ban y byd. Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru rydyn ni wedi gwireddu ein breuddwyd i agor Hostel Canol Dinas, gan greu saith swydd ar yr un pryd. Bellach mae gan warbacwyr a thwristiaid ar gyllideb isel gartref yn Abertawe, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n hyrwyddo Cymru ledled y byd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a ymwelodd â’r ddau fusnes: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i gefnogi’r ddau fusnes llety gwahanol iawn hyn yn Abertawe. Mae’r ddau fusnes yn darparu cynhyrchion o ansawdd uchel iawn, ac yn ychwanegu at yr hyn mae’r ardal yn ei gynnig – yn ogystal â chreu swyddi a chefnogi’r economi leol.

“Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn hynod anodd ar gyfer yr economi ymwelwyr. Fodd bynnag, mae’r rhagolygon ar gyfer yr haf yn llawer mwy addawol, ac mae ymchwil yn dangos bod lefelau uwch o hyder yn y sector, a bod y cyhoedd yn bwriadu gwneud mwy o deithiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf nag yn y 12 mis diwethaf.

“Hoffwn i ddymuno pob llwyddiant i’r ddau fusnes hyn ar gyfer y dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle