Roedd cerddoriaeth, dawnsio ac ymdeimlad o ddathlu yn llenwi tiroedd Castell Caerdydd heddiw mewn digwyddiad arbennig i nodi Caerdydd yn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed.
Y ddinas oedd y gyntaf yng Nghymru i ymaelodi â’r rhwydwaith ym mis Mawrth a dathlodd y cyflawniad mewn steil gyda pharti lansio swyddogol heddiw yn cynnwys perfformiadau gan Only Men Aloud, dawnswyr Rubicon a phlant o Ysgol Gynradd Millbank, Trelái.
Mwynhaodd y gwesteion, oedd yn cynnwys Hyrwyddwr Pobl Hŷn Caerdydd, y Cynghorydd Norma Mackie, a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AoS a rhai o’n dinasyddion hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau dydd y ddinas yr haul a’r awyrgylch o ddathlu.
Mae aelodaeth y ddinas o’r rhwydwaith hwn o Sefydliad Iechyd y Byd, a sefydlwyd yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd â’r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymunedau’n lle gwych i heneiddio, yn ganlyniad i gydweithio helaeth â rhanddeiliaid ledled y ddinas gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sefydliadau addysgol a sefydliadau’r trydydd sector.
Mewn ymgynghoriad ag aelodau hŷn o’r gymuned, datblygwyd cynllun gweithredu deinamig gydag uchelgais gyffredinol y bydd Caerdydd yn dod yn Ddinas Oed-Gyfeillgar, sy’n cynnwys cyfres o ymrwymiadau i bobl hŷn, yn ymwneud ag agweddau ar fywyd megis tai, trafnidiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Norma Mackie: “Am ddigwyddiad gwych yn y Castell heddiw i ddathlu ein haelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed. Rydym yn falch iawn o ymuno â chymunedau o’r un anian ledled y byd, i gyd yn ymdrechu i wella bywydau pobl hŷn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr sefydliad Iechyd y Byd a chyd-aelodau o’r rhwydwaith i gyfnewid syniadau ac arferion da a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn.
“Gall fod yn hawdd iawn gwthio pobl hŷn o’r neilltu a diystyru eu hanghenion a’u dyheadau. Ond credwn y gall pobl hŷn gyfrannu at bob agwedd ar fywyd a bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae yn ein dinas.
“Rydym wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion dinasyddion wrth iddynt dyfu’n hŷn ac mae ein strategaeth Heneiddio’n Dda yn nodi sut y gallwn gefnogi aelodau hŷn o’r gymuned i fyw’n dda wrth iddynt heneiddio, a pharhau’n actif ac mewn cysylltiad.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rwy’n falch iawn mai Caerdydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed. Mae’n wych gweld bod Caerdydd wedi gwrando ac wedi ymrwymo i weithio gyda phobl hŷn i gynllunio gwasanaethau a chymorth cymunedol sy’n galluogi pobl hŷn i ffynnu ac sy’n cyfrannu at ein gweledigaeth genedlaethol o Gymru Sy’n Dda i Bobl Hŷn.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd pobl hŷn yn elwa o’r ymrwymiad i wneud Caerdydd yn ddinas sy’n dda i bobl hŷn ac yn lle gwych i dyfu’n hen.”
Mewn neges fideo arbennig a ddangoswyd yn y digwyddiad heddiw, dywedodd Thiago Herick o raglen Dinasoedd a Chymunedau oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd: “Mae’n anrhydedd mawr cael Caerdydd fel yr aelod Cymreig cyntaf o’n cymuned fyd-eang, dinas sydd wedi ymrwymo i fod yn un dda i bobl hŷn. Diolch yn fawr am waith rhagorol cymaint o bobl sy’n ymwneud â’r achos hwn.
“Mae Caerdydd eisoes yn arwain y ffordd, yn gweithredu fel enghraifft ac mae ganddi’r potensial i gyfrannu fel mentor ar gyfer dinasoedd a chymunedau eraill yng Nghymru.”
Dwedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: “Mae’n wych gweld Caerdydd yn dathlu ei haelodaeth o’r Rhwydwaith Byd-eang gyda digwyddiad arbennig yng Nghastell Caerdydd heddiw.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig o ran gwneud Cymru’n genedl sy’n dda i bobl hŷn ac, fel yr aelod cyntaf o’r Rhwydwaith o Gymru, mae gan Gaerdydd gyfleoedd newydd nawr i arddangos y camau y mae’n eu cymryd ar lwyfan byd-eang, ac i weithio gyda phartneriaid ledled y byd a dysgu ganddynt.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chaerdydd a’i chefnogi wrth i gynlluniau gael eu rhoi ar waith wrth iddi barhau i chwarae ei rhan er mwyn gwireddu’r uchelgais a rannwn o weld Cymru sy’n ystyriol o oedran yn realiti i bobl hŷn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle