Lansio Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy yng Nghymru

0
326
Assistant Forest Manager, Lorna Johnson, Forestry site Wales

Mae Tilhill, prif gwmni rheoli coedwigoedd, cynaeafu coed a thirlunio’r DU, a Foresight Sustainable Forestry Company Plc, cwmni buddsoddi cyfalaf naturiol rhestredig cyntaf y DU, yn falch o lansio Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight, sy’n cynnig cyfle cyffrous i ddarpar ymgeiswyr yn Ne Cymru. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi i gyflwyno’r rhaglen, bydd pobl leol yn Ne Cymru’n cael tair sesiwn hyfforddi wythnosol wedi’u hariannu’n llawn ym mis Awst, Medi a Hydref a fydd yn cynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â choedwigaeth fel plannu coed, PA1 a PA6, beiciau cwad, sgiliau llif gadwyn sylfaenol, hyfforddiant Cymorth Cyntaf a llawer mwy. 

Dros y 70 mlynedd a mwy diwethaf, mae Tilhill wedi plannu dros 1 biliwn o goed ac, fel cwmni preifat, mae ganddo’r nifer fwyaf o reolwyr sydd â chymwysterau proffesiynol, sy’n arbenigo mewn creu a rheoli coetiroedd a chynaeafu coed. Caiff mentor o Tilhill ei neilltuo i ymgeiswyr llwyddiannus i roi cyngor ar ddatblygiad eu gyrfa ym maes coedwigaeth. 

Forestry site Wales

Meddai David Edwards, Cyfarwyddwr Coedwigaeth Tilhill am y fenter: “Mae’n bleser mawr gennym allu cynnig y cyfle cyffrous hwn i ymuno â Chwmni Foresight Sustainable Forestry Company a bod yn rhan o’r gwaith o annog pobl i helpu i ail-lunio dyfodol ein hamgylchedd a’r diwydiant coedwigaeth. 

Does dim angen hyfforddiant, profiad na chymwysterau blaenorol er mwyn gwneud cais. Rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr yn Ne Cymru sy’n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn gallu addasu. Byddai hyn yn berffaith ar gyfer unrhyw un mewn swyddi ym maes amaethyddiaeth, ffermio neu gontractwyr neu unrhyw un sydd am ddechrau gyrfa yn lleol yn y sector coedwigaeth.” 

Mae Foresight Sustainable Forestry Company Plc yn buddsoddi mewn cynlluniau coedwigaeth a choedwigo yn y DU ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gynyddu’r cyflenwad pren cynaliadwy yn y DU.  Mae ei agwedd tuag at goedwigaeth gynaliadwy yn cyd-fynd yn agos â phump o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac mae’n cwmpasu gwarchod yr amgylchedd naturiol, gwella lefelau bioamrywiaeth, gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddal a storio carbon, a chefnogi cymunedau gwledig.  Mae ei gynlluniau coedwigaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn chwarae rhan bwysig yn y brwydrau yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac yn erbyn colli bioamrywiaeth. 

Meddai Richard Kelly, Cyd-arweinydd Foresight Sustainable Forestry Company Plc: “Rydyn ni’n falch o fod wedi lansio ein Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth gyda Tilhill – sy’n ddatblygiad cyffrous a fydd o fudd i gymunedau lleol drwy eu cefnogi i gymryd rhan mewn cyfleoedd sy’n cael eu creu drwy newid defnydd tir sy’n gysylltiedig â choedwigaeth. Bydd y fenter yn helpu cymunedau ffermio gwledig yn uniongyrchol i addasu i newid defnydd tir sy’n gysylltiedig â choedwigaeth drwy ddarparu’r sgiliau, yr hyfforddiant, y cymwysterau a’r offer diogelwch sydd eu hangen i aelodau’r gymuned leol allu chwilio am waith yn y sector coedwigaeth” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle