20,000 o goed wedi’u plannu yn ystod 6 mis cyntaf prosiect coedwig ddinesig Caerdydd

0
370

Plannwyd 20,000 o goed newydd yn ystod 6 mis cyntaf prosiect deng mlynedd uchelgeisiol i greu coedwig ddinesig yng Nghaerdydd.

Mae prosiect Coed Caerdydd yn rhan o ymateb Cyngor Caerdydd i’r argyfwng hinsawdd gyda’r nod o gynyddu canopi coed Caerdydd o 18.9% i 25%.

Drwy weithio gyda chymunedau lleol, mae perllannau cymunedol newydd wedi cael eu plannu yn ystod y tymor plannu cyntaf, gyda rhywogaethau pwysig yn cael eu hadfer, cloddiau newydd yn cael eu creu, a channoedd o goed yn cael eu rhoi i gartrefi, grwpiau cymunedol ac ysgolion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: Mae coed yn hanfodol i iechyd ein dinas a’n planed.  Mae coed Caerdydd eisoes yn amsugno 10.5% o’r llygryddion sy’n cael eu gollwng gan draffig ac yn cael gwared ar yr hyn sy’n cyfateb i allyriadau carbon blynyddol tua 14,000 o geir o’r atmosffer – ond os ydym am wireddu ein gweledigaeth o Gaerdydd carbon niwtral erbyn 2030 yna mae angen i ni blannu llawer mwy ohonynt.

“Mae nifer y coed a blannwn eisoes wedi cynyddu’n fawr drwy brosiect Coed Caerdydd. Plannodd ein rhaglen blannu brif ffrwd dros 4,000 o goed yn ystod y tymor – mae’r coed ychwanegol a blannwyd drwy Goed Caerdydd yn mynd â’r cyfanswm i dros 20,000.

“Mae hynny diolch i’r gefnogaeth wych rydyn ni wedi’i chael gan drigolion, grwpiau cymunedol, cynghorwyr wardiau lleol, busnesau ac ysgolion. Mae eu cymorth wedi bod yn hanfodol i gael coed wedi’u plannu, ond hefyd i sicrhau eu bod yn derbyn gofal priodol fel eu bod yn ffynnu yn yr hirdymor.

“Er nad dyma’r adeg gywir o’r flwyddyn i blannu coed, mae dal llawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan – boed hynny drwy awgrymu safleoedd ar gyfer plannu, arolygu safleoedd neu fonitro iechyd coed sydd newydd eu plannu. Yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni drwy hyn yw rhywbeth fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol am flynyddoedd i ddod, a php fwyaf o bobl sy’n barod i roi help llaw, y mwyaf y gallwn ei gyflawni.”

Coed Caerdydd mewn rhifau

Yn ei dymor plannu 6 mis cyntaf, mae’r prosiect wedi:

  • plannu 16,000 o goed ar wyth hectar o dir (sy’n cyfateb i tua 11.2 o gaeau pêl-droed) gyda 4,000 o goed eraill wedi’u plannu fel rhan o raglen blannu flynyddol brif ffrwd y cyngor.
  • gweithio gyda dros 750 o wirfoddolwyr
  • plannu un cilomedr o gloddiau brodorol
  • plannu dau safle gyda choed ffrwythau a chnau i greu perllannau cymunedol
  • plannu pum safle ‘coetir gwlyb’ a chwe llain ymyl/stryd
  • rhoi 750 o goed i ysgolion, grwpiau cymunedol a thrigolion

Mae cymunedau lleol wedi bod wrth wraidd llwyddiant prosiect Coed Caerdydd hyd yn hyn, ac roedd hynny’n arbennig o wir am ddwy berllan gymunedol newydd a sefydlwyd yn ystod y tymor hwn.

Datblygwyd y ddau safle perllan ar ôl i drigolion oedd â diddordeb mewn gwella eu mannau gwyrdd lleol ym Maes Hamdden Ffordd y Felin yn Nhrelái, a Pharc Sanatorium yn Nhreganna, gysylltu â thîm prosiect Coed Caerdydd, ac mae 30 o goed ffrwythau, gan gynnwys coed Ceirios, Afalau, Gellyg ac Eirin, bellach wedi’u plannu.

Dywedodd Chloe Jenkins, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Coed Caerdydd: “Roedd yr amseru’n wych ar gyfer Parc Sanatorium, oherwydd roedd diddordeb hefyd gan ysgolion lleol mewn cael eu disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau plannu, felly fe wnaethon ni arolygu’r safle gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ogystal â chael grwpiau cymunedol a disgyblion o’r ysgol gynradd leol yn helpu gyda’r plannu. Mae wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn.”

Stori debyg sydd i Faes Hamdden Heol y Felin lle’r oedd preswylwyr eisiau rhywbeth a fyddai’n helpu pobl leol i deimlo’n fwy cysylltiedig â’r ardal.  Mae’r safle wedi elwa’n ddiweddar o newidiadau i’r drefn torri gwair sydd wedi caniatáu i ddôl blodau gwyllt wreiddio yn ystod misoedd yr haf ond er ei fod yn fan da i fynd â chŵn am dro, roedd trigolion yn teimlo nad oedd llawer o nodweddion diddorol ar y safle ac roedden nhw’n pryderu am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Nododd arolwg o’r safle gyda thrigolion a Grŵp Afonydd Caerdydd ran o’r cae uchaf y gellid ei defnyddio ar gyfer perllan ac mae amrywiaeth o goed ffrwythau a chnau meddal, gan gynnwys coed Cyll ac Ysgaw, wedi’u plannu.

Dywedodd Chloe Jenkins: “Drwy wrando ar ddymuniadau’r gymuned a chyd-ddylunio’r mannau hyn gyda phobl leol, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn annog trigolion a grwpiau i gymryd perchnogaeth o’r coed a mwynhau gofalu amdanyn nhw am flynyddoedd i ddod – hyd yn hyn mae’n ymddangos ei fod yn gweithio, mae trigolion wedi bod mewn cysylltiad â ni sawl gwaith ers i’r plannu ddigwydd, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am sut mae’r coed yn sefydlu, a rhoi gwybod am unrhyw golledion. Mae wedi bod yn wych i’w weld, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r ddau safle yn ystod y tymor plannu nesaf i blannu hyd yn oed mwy o goed.”

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Helpu i fonitro coed sydd newydd eu plannu drwy gysylltu os byddwch yn sylwi ar unrhyw arwyddion o ddifrod neu iechyd gwael.

Awgrymu safleoedd newydd ar gyfer plannu coed yn eich ardal.

Cymryd rhan mewn arolygon safleoedd, plannu coed a chyfleoedd gwirfoddoli mewn meithrinfa goed.

Ymunwch â rhestr bostio Coed Caerdydd drwy e-bostio coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk neu dilynwch @coedcaerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am blannu coed, ôl-ofal a digwyddiadau eraill.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle