Dathlu prosiectau llwyddiannus mewn digwyddiad gwledig

0
262

Mae pedwar o’r prosiectau llwyddiannus niferus i elwa o Raglen Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd wedi derbyn gwobrau am eu llwyddiannau mewn digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Frenhinol.

Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod o fudd i brosiectau ers blynyddoedd lawer a daw i ben yn 2023 ar ôl i’r DU adael yr UE.

Mae digwyddiad Dathlu Cymru Wledig wedi rhoi cyfle i edrych ar lwyddiannau prosiectau, y gwahaniaeth y maent wedi’i wneud i bobl a chymunedau ac edrych i’r dyfodol wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ymagwedd wirioneddol Gymreig at yr economi wledig.

Mae amcanion y CDG wedi cynnwys cynyddu cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd busnesau ffermio, annog arferion rheoli tir cynaliadwy a hyrwyddo twf economaidd gwledig cryf a chynaliadwy.

I gefnogi hyn, mae cynlluniau yng Nghymru wedi cynnig gwahanol fathau o ymyriadau megis cyngor pwrpasol wedi’i deilwra ar gyfer busnesau, gweithgareddau arddangos a phrosiectau cydweithredol, aml-sectoraidd ledled Cymru, a gynlluniwyd i ysgogi arloesedd a newid arferion gweithio ar gyfer y dyfodol.

Llwyddodd Cadwch Gymru’n Daclus yn y categori arloesi ar gyfer sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau sbwriel a Pharthau Di-sbwriel a reolir ac sy’n eiddo i fusnesau, cymunedau ac ysgolion lleol.

Mae syniadau a chynlluniau peilot newydd wedi dod i’r amlwg drwy’r broses o wella amgylcheddau lleol ac ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.

Mae Dyfodol Cambrian wedi cipio’r wobr yn y categori Cymunedau am ei waith yng Ngheredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin. Mae hyn wedi cynnwys adeiladu a chefnogi hunaniaeth Mynyddoedd Cambria fel cyrchfan drwy gryfhau’r Rhwydwaith Twristiaeth a gweithio o fewn cymunedau lleol a chyda busnesau i adeiladu economi’r ardal.

Enillodd Pennal 2050 wobrau’r adran Tirweddau, Natur a Choedwigaeth am roi cyfrifoldeb i bobl leol nodi a chynllunio camau gweithredu i ymdopi â heriau ar lefel tirwedd. Diolch i gefnogaeth drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy, cydweithio, arbenigedd, syniadau, technoleg a gwyddoniaeth, mae arferion gorau oll wedi’u rhannu ar daith gynhwysol sydd â dyfodol ardal wledig a’i chenedlaethau nesaf yn ganolog iddo.

Enillodd Prosiect Helix y wobr yn y categori Bwyd a Thwristiaeth. Mae’r prosiect wedi cefnogi busnesau bwyd drwy uwchsgilio’r gweithlu, cefnogi busnesau newydd a helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Mae hyn wedi gweld effaith gwerth £215m ar fusnesau bwyd a diod, wedi creu 485 o swyddi ac wedi diogelu mwy na 2,600.

Enillodd Prosiect Helix y wobr gyffredinol hefyd ar draws pob thema am ei llwyddiannau hyd yma.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: “Mae’n briodol iawn wrth i gymorth y Cynllun Datblygu Gwledig ddod i ben ein bod yn dathlu gwaith ac ymdrechion gwych unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y cyllid hwn i helpu pobl a chymunedau.

“Bu llawer o brosiectau llwyddiannus ac rwyf am longyfarch pob un ohonynt, gan gynnwys y pedwar dderbyniodd wobrau yn nigwyddiad Dathlu Cymru Wledig, am y cyfraniadau pwysig y maent wedi’u gwneud.

“Wrth i ni ddatblygu ymagwedd wirioneddol Gymreig at yr economi wledig wrth symud ymlaen, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o’r prosiectau hyn ac yn adeiladu arnynt.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle