Hen feddygfa yn Aberaeron yn cael bywyd newydd

0
304

Mae hen feddygfa yn Aberaeron wedi cael ei gweddnewid ar ôl peidio â chael ei defnyddio i raddau helaeth am chwe blynedd.

Yn dilyn grant o £20,000 gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r hen feddygfa wedi ailagor fel oriel. Arweiniwyd y prosiect hwn gan Gyngor Sir Ceredigion.

Agorodd oriel Gallery Gwyn ei drysau’n swyddogol ar 8 Ebrill 2022 ar ôl derbyn cyllid o fewn y flwyddyn 2021-2022. Oriel gyfoes yng nghanol Aberaeron yw Gallery Gwyn sy’n arddangos y gorau o gelf Cymru, gyda thair oriel ac ystafell ddigidol.

Yn ogystal â’r gofod arddangos, bydd Gallery Gwyn yn darparu ardaloedd addysgu a stiwdios i artistiaid, yn ogystal â gofod gwaith pwrpasol ar gyfer artist preswyl. Bydd y cyfleusterau hefyd yn cynnwys gwasanaeth fframio lluniau a gofod pwrpasol ar gyfer arddangos celf ddigidol. Bydd siop fechan hefyd yn y dderbynfa yn gwerthu nwyddau sy’n ymwneud â’r arddangosfeydd cyfredol. Bydd ymwelwyr yn gallu prynu gweithiau celf sy’n cael eu harddangos yn yr arddangosfeydd.

Ddydd Gwener 10 Mehefin, bydd Gallery Gwyn yn cynnal arddangosiad preifat i agor eu harddangosfeydd newydd yn ogystal â’u ‘Pwmp Plinth’ arbennig y tu allan a chyflwyno’r ardd. Dywedodd Helen Duffee a Natalie Chapman o’r Oriel: “Rydym wedi bod ar agor ers bron i 2 fis ac mae popeth yn mynd yn dda. Mae’r gwaith adnewyddu wedi gwneud cystal argraff ar yr ymwelwyr ag y mae’r gwaith celf!”

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi a ddarparodd £1.7 miliwn i adfywio canol trefi yn y Canolbarth. Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o gymuned a threftadaeth Cymru, ac mae’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn ymroddedig i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio amser hamdden ynddynt.

Y Cynghorydd Clive Davies yw’r Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae’n wych gweld sut mae cyllid y rhaglen Trawsnewid Trefi wedi cael ei ddefnyddio i adfywio adeilad nad oedd yn cael ei ddefnyddio, sydd wedi dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i dref glan môr Aberaeron.”

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: “Drwy ein rhaglen Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi, fe wnaethom ddarparu £15.2 miliwn i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a’n dinasoedd ledled Cymru ac mae ein polisi Canol Trefi yn Gyntaf, sydd wedi’i ymgorffori yn y cynllun datblygu cenedlaethol ‘Cymru’r Dyfodol’, yn golygu mai safleoedd yng nghanol trefi a dinasoedd ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ar leoliad gweithleoedd a gwasanaethau.”

Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd; ailbwrpasu adeiladau sydd wedi eu hesgeuluso; cynyddu mannau ar gyfer gweithio hyblyg a byw; a darparu mynediad at wasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am Gallery Gwyn, ewch i www.facebook.com/Gallery-Gwyn-Oxford-street-Aberaeron-sa460jb neu anfonwch e-bost at champmanframing@outlook.com

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Trawsnewid Trefi ewch i:  www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-creu-lleoedd-trawsnewid-trefi/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle