Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru’n lansio ei hail hwb bwyd…

0
407

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, yn falch o lansio ei hail hwb bwyd ym mis Gorffennaf. Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.

Mae’r hwb bwyd yn Ninbych-y-pysgod yn lansio 1 Gorffennaf yn Yr Hen Gapel, Lower Frog Street. Bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Ninbych-y-pysgod yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres i ddechrau gyda’r bwriad o ddatblygu’r amrywiaeth o gynnyrch yn y dyfodol. 

Dyma’r ail hwb i agor, ond rydym yn parhau i ddatblygu hybiau ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru. 

Dywedodd Anne Draper, swyddog ymgysylltu cymunedol “Rydym yn edrych ymlaen at lansio hwb bwyd cymunedol ochr yn ochr â’r oergell gymunedol. Mawr obeithiwn y gall yr ychwanegiad hwn gynnig rhywbeth gwahanol a rhoi darpariaeth well o fwyd iach am bris da i gymuned Dinbych-y-pysgod”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle