Blwyddyn ac ymhell dros 100,000 o ymwelwyr yn ddiweddarach!

0
291

Ar 18 Mehefin, bydd blwyddyn ers i Lys-y-Frân ailagor yn dilyn ailddatblygiad mawr yn 2021. Mae’r safle wedi mynd o nerth i nerth dros y 12 mis diwethaf yn dilyn y buddsoddiad o £4 miliwn. Bu Dŵr Cymru Welsh Water yn ddigon ffodus i gael gwerth £1.7 miliwn o gyllid Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o raglen Cyrchfannau Denu Twristiaid Llywodraeth Cymru, dan adain Croeso Cymru, sydd â’r nod o greu 11 o gyrchfannau cofiadwy ar draws Cymru. Amcangyfrifwyd y byddai Llys-y-Frân ar ei newydd wedd yn denu tua 100,000 o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond llwyddodd i ragori ar hynny cyn pen naw mis ym mis Mawrth.

Dywedodd Rheolwr yr Atyniad, Mark Hillary: “Wrth edrych nôl dros y flwyddyn gyntaf, mae hi wedi bod yn anhygoel gweld cynifer o bobl yn ymweld â’r safle eto, gan greu atgofion a fydd yn para oes wrth fwynhau’r cyfleusterau newydd a’r gweithgareddau sydd ar gael yma.  Mae’r safle wedi tyfu a datblygu cymaint gydag ychwanegiad wal ddringo newydd i gydategu ein gweithgareddau eraill ar dir sych a’r ardal ymarfer i gŵn. Lansiwyd sesiynau nofio dŵr agored rheolaidd sy’n rhedeg trwy gydol tymor yr haf, sydd wedi profi’n boblogaidd. Rydyn ni wedi cynnal dwy ffair grefftau, y bu’r ddwy yn llwyddiant aruthrol, sydd wedi esgor ar gynlluniau i gynnal Ffair Fwyd a Diod yn yr hydref a Ffair Grefftau’r Nadolig eleni. Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff lleol fel Clwb Ceir Clasurol Sir Benfro a TROTs (Tîm Rhedeg a Chyfeiriannu Taf) i gynnal achlysuron hynod lwyddiannus ar y safle, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau ar y cyd â chyrff chwaraeon lleol a chenedlaethol yn y dyfodol.”

Ymunodd Millie Wilson â Dŵr Cymru Welsh Water fel Gofalwr yn Llys-y-Frân yn 2021. Wrth edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf meddai, “Mae hi wedi bod yn hyfryd gwylio’r safle’n tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’r safle wedi dod yn ferw o brysurdeb, gyda’r cyhoedd a’r bywyd gwyllt yn dychwelyd ac yn cyd-fyw â ni. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i weld y peth o’r ddwy ochr. Mae hi’n hynod o werth chweil gweld sut mae ein holl waith caled wrth gynnal-a-chadw’r safle a mynychu hyfforddiant perthnasol wedi bod yn fuddiol, a sut mae’r cyhoedd yn mwynhau’r lle.

Mae ennill ei blwyf fel canolfan gweithgareddau ar gyfer diwrnodau gweithgareddau i’r byd addysg a diwrnodau datblygu tîm wastad wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lys-y-Frân. Denwyd tipyn o ddiddordeb ac mae’r adborth gan y trefnwyr wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer ohonynt yn mynegi diddordeb mewn dychwelyd eto’r flwyddyn nesaf. Mae’r cyfleusterau cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr a’r ganolfan gweithgareddau’n llefydd gwych i gynnal cyfarfodydd, hyfforddiant a gweithgareddau tîm, gyda’r gweithgareddau awyr agored yn cynnig profiadau bondio hwyliog ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau o gydweithwyr. Mae pecynnau gweithgareddau parti pen-blwydd ar gael i’w bwcio erbyn hyn, sy’n cynnwys chwaraeon ar y dŵr ac ar dir sych, ynghyd â lluniaeth yng nghaffi’r ganolfan ymwelwyr.

Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan: https://llys-y-fran.co.uk/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle