Cynllun Hyfforddi Newyddiaduraeth ITV Cymru & S4C yn chwilio am dalent newydd

0
232
Indigo Jones (chwith) & Eyitemi Smith (dde)

 

Mae ITV Cymru Wales, mewn partneriaeth ag S4C, unwaith eto yn chwilio am ddau berson brwdfrydig sydd am ddatblygu gyrfa ym maes newyddiaduraeth Gymraeg.

Mae’r cynllun hyfforddi, sy’n bartneriaeth rhwng S4C ac ITV, yn rhedeg am y pumed tro eleni ac yn rhan o ymrwymiad S4C i roi cyfle i’r rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector weithio yn y maes.

Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn rhaglen hyfforddi 12 mis, gan ennill profiad o weithio yn adran newyddion a materion cyfoes ITV Cymru. Byddant hefyd yn dysgu sut i greu cynnwys materion cyfoes ffurf-fer ar gyfer Hansh Dim Sbin ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac i wasanaethau newyddion digidol S4C.

Meddai Branwen Thomas, Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales:

“Rydym mor falch o’r bartneriaeth gydag S4C i wneud yr hyfforddiant yma yn realiti unwaith eto eleni, a’r ymrwymiad pellach i ddatblygu cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Dyma gyfle cyffrous i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy greu cynnwys ar gyfer Hansh Dim Sbin a datblygu sgiliau digidol a fydd yn allweddol i unrhyw yrfa mewn newyddiaduraeth yn y dyfodol.”

Indigo Jones ac Eyitemi Smith oedd yr ymgeiswyr llwyddiannus ar y cynllun hyfforddi y llynedd, ac maen nhw wedi cael profiad amhrisiadwy o weithio yn y maes.

Meddai Indigo Jones:

“Yr adeg hon llynedd, do’n i ddim yn sicr a ddylwn i wneud y cais, gan feddwl i mi fy hun nad oes unrhyw ffordd y byddwn yn cael swydd yn y cyfryngau Cymraeg. 

Ro’n i’n meddwl oherwydd do’n i ddim yn swnio fel pawb rydych chi wedi gweld ar S4C, a bod fy Nghymraeg i ddim yn ‘berffaith’, y byddwn i jyst yn gwastraffu fy amser. Ond, rydw i mor falch fy mod wedi mentro a gwneud cais am y cynllun! 

Achos nawr rydw i wedi cael y cyfle i fod y ‘representation’ ro’n i ei angen wrth dyfu i fyny gyda’r cyfryngau Cymraeg.

Rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd gwych gyda Hansh Dim Sbin ac ITV Cymru. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ‘socials’ neu beth sy’n digwydd yn y byd, cymerwch fy nghyngor, a gwnewch gais.  Rydw i mor ddiolchgar nes i.”

Ychwanega Eyitemi Smith:

“Rwyf wedi cael cymaint o brofiadau ers bod ar yr hyfforddiant. Rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar straeon sy’n bwysig i mi, fel materion yn ymwneud â Newid Hinsawdd – yn ogystal â chreu cynnwys digidol ar straeon a materion efallai sy’ ddim yn cael sylw yn y newyddion prif ffrwd.

Rwyf hefyd wedi cael llawer o brofiadau y tu allan i’r hyfforddiant ers ymuno, fel mynd ar y Radio, yn ogystal ag arwain trafodaethau panel.”

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:

“Rydym yn falch iawn o allu ymestyn y cynllun hwn eto eleni ar ôl llwyddiant y blynyddoedd diwethaf.

“Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobl ifanc ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd o’u cwmpas yn ychwanegiad pwysig i Hansh, ac yn lle i ddatblygu technegau cwbl gyfoes ar gyfer trafod materion yng Nghymru a’r byd.”

Dyma gyfle arbennig i rywun sydd â diddordeb brwd mewn newyddion a materion cyfoes ac sy’ am ddilyn gyrfa bellach fel Newyddiadurwr.

Y dyddiad cau yw Mehefin 27 a mae’r cynllun hyfforddi yn gytundeb 12 mis:

https://itvjobs.referrals.selectminds.com/jobs/digital-journalist-1835?_ga=2.179213219.669433976.1654678669-1758674331.1652093928

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle