Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin y Cynghorydd Darren Price wedi talu teyrnged i arwr rygbi Cymru, Phil Bennett, a fu farw ar ôl salwch hir.
Yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr rygbi gorau’r byd, bu farw seren y gamp o Felin-foel, Llanelli ddydd Sul, yn 73 oed.
Enillodd Benny, fel yr oedd yn cael ei adnabod, 29 o gapiau dros Gymru o 1969 i 1978, chwaraeodd dros ei dîm Y Scarlets 413 o weithiau gan serennu i’r Llewod ar ddwy daith, i Dde Affrica ym 1974 ac fel Capten yn Seland Newydd dair blynedd yn ddiweddarach.
Derbyniodd OBE ym 1979 am ei wasanaethau i chwaraeon a chafodd ei anrhydeddu a’i dderbyn i Oriel Anfarwolion Rygbi’r Byd yn 2005.
Wrth siarad ar ran y Cyngor dywedodd y Cynghorydd Price,: “Roedd Phil Bennett yn un o gewri’r byd rygbi ac yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Roedd yn seren fyd-enwog ac yn perthyn i oes aur rygbi Cymru, a bydd yn cael ei gofio nid yn unig am ei sgiliau aruthrol ar y cae rygbi, ond am ei frwdfrydedd a’i angerdd dros chwaraeon lleol, a’i gyfraniad gwerthfawr i’r gymuned leol.
“Gweithiodd Phil fel rhan o dîm datblygu chwaraeon cymunedol y cyngor am nifer o flynyddoedd, a chafodd effaith enfawr ar ein pobl ifanc a phobl hŷn ledled Sir Gaerfyrddin.
“Bydd colled fawr ar ei ôl, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Phil ar yr adeg drist hon.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle