Mae Carys Davies, athrawes ysgol gynradd, yn cefnogi Apêl Cemo Bronglais wrth iddi gael triniaeth ei hun ar gyfer canser y fron eilaidd.
Cafodd Carys, 38, mam i dri o blant, sy’n byw ym Meulah, ger Castellnewydd Emlyn gyda’i gŵr Gary, ddiagnosis o ganser y fron eilaidd bedair blynedd yn ôl ar ôl diagnosis cychwynnol o ganser y fron ddegawd yn ôl.
Dywedodd Carys: “Rydw i dan ofal Dr Elin a’i thîm ac yn mynychu Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais ar gyfer cemotherapi. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn glaf mewnol yn Ward Meurig sawl gwaith oherwydd problemau gyda gweithrediad yr arennau a haint.
“Mae’r hyn y mae’r tîm yn yr uned ddydd yn ei gynnig yn anhygoel. Mae’r staff fel ail deulu; Gallaf siarad â nhw am unrhyw beth.”
Mae Carys yn annog pawb i gefnogi’r Apêl, sydd â’r nod o godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.
“Bydd uned newydd, bwrpasol yn golygu y byddan nhw’n gallu bodloni’r galw cynyddol gan gleifion wrth symud ymlaen,” ychwanegodd Carys. “Rydw i eisiau i bawb gael y gofal a’r gefnogaeth wych rydw i wedi’u cael. Rydw i mor ddiolchgar am bopeth mae’r staff wedi’i wneud i mi.”
Mae gan Carys lysferch Tia, sy’n 17, a dau fab Flynn, naw a Gruff, saith. Mae’n dysgu yn Ysgol Gynradd Penboyr yn Nrefach Felindre.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl a sut y gallwch chi helpu, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle