Adeilad gorsaf reilffordd rhestredig i’w adfer yn Llanelli

0
300
Exterior Goodshed

Mae buddsoddiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi helpu i adfer adeilad rheilffordd adfeiliedig o Oes Fictoria yn Llanelli.

Mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II* yn Ward Tyisha y dref yn ganolfan gymunedol ac mae cam cyntaf y prosiect eisoes wedi’i gwblhau.

Daw hyn ar ôl i’r cyngor ymrwymo £300k trwy gyfrwng y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio i gefnogi cam cyntaf y cyllid a ddefnyddiwyd i drawsnewid y bloc gorllewinol, sydd nesaf at y brif sied, yn swyddfa a man cyfarfod hyblyg yn y gymuned.

Adeiladwyd y sied reilffordd yn 1875 ac roedd yn cael ei defnyddio i gadw cargo gan gynnwys defaid a gwartheg.

Chwaraeodd ran hollbwysig yn natblygiad Llanelli fel canolfan ddiwydiannol fawr cyn iddi fynd yn segur yn 1966. Cafodd drysau’r pen gorllewinol eu cau’n derfynol yn 2000.

Bellach caiff y Sied Nwyddau ei rhedeg gan grŵp o wirfoddolwyr – Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli – ar ôl i Network Rail Cymru drosglwyddo’r adeilad.

Mae ward Tyisha Llanelli a chanol tref Llanelli yn ehangach yn destun buddsoddiad enfawr fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol y cyngor i adfywio’r ardal drwy gynyddu diogelwch cymunedol, datblygu tai a chyfleusterau cymunedol a gwella’r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Bydd y cam ariannu hwn yn darparu cyfleusterau yn yr adeilad a fydd o gymorth i bobl leol gyfarfod, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a sefydlu busnesau cymdeithasol. Mae’r adeilad hwn yn rhan enfawr o’n treftadaeth rheilffyrdd yn Sir Gaerfyrddin a Chymru ac rwyf yn edrych ymlaen at ei weld yn llawn bywyd unwaith eto ac yn cael ei fwynhau gan ein cymuned.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymddiriedolaeth i’w chael yma.  https://www.llanellirailwaygoodsshedtrust.org/about


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle