Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am gontractwyr cefn gwlad arbenigol lleol ar gyfer gwaith ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus a safleoedd cadwraeth ledled y sir.
Anogir busnesau yn Sir Gaerfyrddin i dendro ar gyfer y fframwaith sirol, sy’n para dwy flynedd, gan ddechrau ym mis Medi gydag opsiwn i’w ymestyn am ddwy flynedd arall.
Bydd y gwaith yn cynnwys rheoli gwarchodfeydd natur, camau lliniaru ar gyfer datblygu, a phrosiectau cynefin a ariennir gan y llywodraeth ar safleoedd sydd ag amodau heriol, cyfyngiadau ecolegol, tir gwlyb a mynediad anodd.
Mae enghreifftiau o’r gwaith yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau, celfi cefn gwlad (camfeydd a gatiau), torri caeau sydd wedi gordyfu, gwaith llif gadwyn a strimio, gwaith cloddio, rheoli coetiroedd, ffensio a phlannu coed.
Mae profiad llwyddiannus a dealltwriaeth dda o weithio yn yr amgylchedd gwledig a naturiol a gwybodaeth am gadwraeth yn hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r ffordd mae’r tir yn newid mewn tywydd heriol.
Bydd angen i ymgeiswyr sicrhau bod y canlynol ar gael: dogfennau arolygu cerbydau a chofnodion cynnal a chadw, tystysgrifau cymhwysedd gweithredwyr (ar gyfer llogi peiriannau gyda gweithredwyr), polisi iechyd a diogelwch a dogfennau yswiriant perthnasol.
Mae angen i unrhyw gyflenwyr sydd â diddordeb mewn tendro am y gwaith hwn fod wedi’u cofrestru ar wefan Porth Caffael Cenedlaethol GwerthwchiGymru, lle gallant fynegi eu diddordeb a derbyn rhagor o wybodaeth.
Mae hwn yn wasanaeth ar-lein am ddim ac yn galluogi busnesau i hyrwyddo eu sefydliad nid yn unig i’r Cyngor ond i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn eu galluogi i gael hysbysiadau am gyfleoedd contract sy’n addas i’w maes gwaith.
Mae’r cyngor hefyd yn annog busnesau i gofrestru ar Gyfeiriadur Busnesau Busnes Cymru – adnodd am ddim lle gall busnesau hysbysebu eu gwasanaethau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle