ITV Cymru Wales a Mencap Cymru yn lansio partneriaeth newydd i chwalu rhwystrau i bobl ag anabledd dysgu

0
264
ITV CYMRU WALES, MENCAP CYMRU, 21/06/2022 MANDATORY BYLINE - (C) HUW JOHN, Cardiff 21/06/2022 ITC Cymru Wales / Mencap Cymru, Senedd mail@huwjohn.com www.huwjohn.com Instagram: huwjohn_uk

Mae ITV Cymru Wales a Mencap Cymru yn falch o fod wedi lansio partneriaeth newydd sbon gyda’r nod o helpu i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl sy’n ceisio gweithio yn y diwydiant Teledu a Darlledu.

Drwy gydweithio, mae’r ddau sefydliad yn gobeithio codi gwell ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mwy o fynediad at gyfleoedd cyflogaeth.

Fel rhan o Wythnos Anabledd Dysgu 2022, cynhaliwyd digwyddiad lansio arbennig yn y Senedd ddydd Mawrth 21 Mehefin lle daeth staff Mencap Cymru, aelodau a phobl y maent yn eu cefnogi ledled Cymru ynghyd â gweithwyr ITV Cymru Wales i ddathlu’r bartneriaeth newydd.

ITV CYMRU WALES, MENCAP CYMRU, 21/06/2022 MANDATORY BYLINE – (C) HUW JOHN, Cardiff 21/06/2022 ITC Cymru Wales / Mencap Cymru, Senedd mail@huwjohn.com www.huwjohn.com Instagram: huwjohn_uk

Fel rhan o’r bartneriaeth newydd, cynhaliodd ITV Cymru Wales Ddyddiau Hyfforddiant Cyfryngau yn ddiweddar i bobl a gefnogir gan Mencap Cymru a’u grwpiau lleol. Rhoddodd y dyddiau Hyfforddiant Cyfryngau brofiad tu ôl i’r llenni o’r hyn sy’n digwydd yn ystafell newyddion ITV Cymru Wales, a chynnig profiad ymarferol o gyflwyno bwletinau tywydd a newyddion i gamera.

Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru Wales:

“Rydym yn falch iawn o gael lansio’r bartneriaeth newydd hon gyda Mencap Cymru, a thrwy gydweithio rydym eisiau sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael cyfle cyfartal i lwyddo mewn gyrfa yn y diwydiant creadigol.

“Mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus gan gynnwys ITV yn parhau i ddod â buddion sylweddol i gymdeithas mewn nifer o ffyrdd, a gobeithiwn y bydd ein partneriaeth newydd yn cadarnhau ymrwymiad ITV i greu cyfleoedd, gwella amrywiaeth yn y byd Teledu a Darlledu.”

Dywedodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i bobl ag anabledd dysgu ddatblygu hyder o flaen a thu ôl i’r camera. Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad ITV Cymru Wales i wneud y bartneriaeth hon yn llwyddiant wedi gwneud argraff fawr arnom.”

Dywedodd Steffan Hopping, a gymerodd ran yn yr hyfforddiant:

“Fe wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn yr hyfforddiant cyfryngau a dysgu cymaint mwy amdanaf fy hun a gweithio yn y cyfryngau. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a threulio mwy o amser gydag ITV Cymru Wales”.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle