Nid yw magu plant yn rhwydd bob amser; mae ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru, eisiau helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â magu plant mewn modd cadarnhaol i rieni sydd â phlant hyd at 18 oed.
Tri mis yn unig ers i gosbi plant yn gorfforol ddod yn anghyfreithlon, bydd cyfres o sioeau teithiol sy’n rhoi gwybodaeth am fagu plant yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru rhwng mis Mehefin a mis Medi 2022.
Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i’r cyhoedd mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau cyhoeddus, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i gael gwybod mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol.
Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd / magu plant llywodraeth leol a Magu Plant. Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bopeth sy’n ymwneud â magu plant.
Mae’r sioeau teithiol yn cyd-fynd ag ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd, ‘Ddim fan hyn’, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod cosbi corfforol, fel smacio, bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae’r rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau fel a ganlyn:
· Dydd Iau 30 Mehefin, 9.30-12.30: ASDA Bae Caerdydd, Parc Manwerthu Ferry Road, Caerdydd, CF11 OJR
· Dydd Iau 7 Gorffennaf, 9.30-12.30: ASDA Llansamlet, Upper Forest Way, Abertawe, SA6 8PS
· Dydd Iau 14 Gorffennaf: 9.30-12.30: ASDA Pen-y-bont ar Ogwr, Coychurch Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3AG
· Dydd Iau 18 Awst, 9.30-12.30: Ffair Dinbych a’r Fflint, The Green, Dinbych, LL16 3NU
· Dydd Iau 1 Medi, 9.30-12.30: Tesco Extra Casnewydd, Uned 3, Harlech Retail Park, Cardiff Road, Casnewydd NP20 3BA
· Dydd Iau 15 Medi, 9.30-12.30: Tesco Aberystwyth, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PB
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, “Pan gyflwynom y gyfraith i roi terfyn ar gosbi corfforol, roeddem yn gwbl ymwybodol bod angen i’r wybodaeth, cyngor a chymorth angenrheidiol fod ar gael i rieni. Dyna pam rydym yn buddsoddi hyd at £2.8m ychwanegol, dros bedair blynedd, i gynyddu gallu awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth ar fagu plant mewn modd cadarnhaol.
“Bydd y sioeau teithiol ledled Cymru yn gyfle gwych i deuluoedd gael gwybod mwy am yr ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo a chael awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant yn gadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant.
“Mae llawer o gymorth magu plant ar gael i deuluoedd, gan gynnwys cymorth wedi’i dargedu trwy raglenni fel Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ochr yn ochr â gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan, er enghraifft, fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu ac awdurdodau lleol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle