Mae Cystadleuaeth Anifeiliaid Anwes flynyddol Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ei hôl!

0
263

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi lansio ei Chystadleuaeth Anifeiliaid Anwes ar gyfer 2022.

Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd ennill gwobrau, gan, ar yr un pryd, helpu’r elusen i godi arian sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG yn ardal Hywel Dda.

Gwahoddir perchnogion cathod, cŵn, moch cwta a byjis rhagorol yr ardal i gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol.

Gall perchnogion anifeiliaid anwes wneud cais cymaint o weithiau ag y dymunant yn y categorïau y Ci Mwyaf Ciwt, y Gath Fwyaf Ciwt a’r Anifail Anwes Arall Mwyaf Ciwt. Mae yna dâl o £3 am bob llun i ymgeisio.

Mae’n hawdd cymryd rhan. Y cwbl y mae angen i gyfranogwyr ei wneud yw anfon llun o’u hanifail anwes i fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk a dilyn y cyfarwyddiadau yn y ddolen hon: https://hyweldda.enthuse.com/cf/pet-competition.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb yn ardal y Bwrdd Iechyd. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 30 Mehefin 2022. Bydd y tri therfynol ym mhob categori yn cael eu dethol gan dîm Elusennau Iechyd Hywel Dda. Yna caiff yr enillwyr eu dewis trwy bleidlais ar-lein, a chyhoeddir eu henwau fis Gorffennaf.

Mae yna wobrau ar gyfer y safle cyntaf ym mhob categori, sydd wedi cael eu rhoi gan Wynnstay, Burns Pet Food a Vincent Davies Department Store.

Dywedodd Diane Henry, swyddog cymorth codi arian: “Bob tro y bydd pobl yn cymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Anifeiliaid Anwes gyda lluniau o’u hanifeiliaid rhagorol, maent yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle