Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi trefnu diwrnod agored ar-lein yr wythnos nesaf i bobl gael gwybod mwy am ei llwybrau astudio hyblyg i Ofal Cymdeithasol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys gwybodaeth am fodiwl rhagarweiniol y Brifysgol Agored, Cyflwyno Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n rhoi trosolwg o’r sector, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a phobl sydd wedi derbyn cymorth.
Bydd y gynulleidfa ar-lein hefyd yn clywed gan fyfyrwyr a fydd yn rhannu eu profiadau o astudio; a gan Dot Williams, Tiwtor Ymarfer yn y Brifysgol Agored, sydd wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ers sawl blwyddyn, ac sydd wedi astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ei hun. Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn Holi ac Ateb byw lle bydd mynychwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau.
Mae’r Brifysgol Agored yn addysgu ar-lein, sy’n golygu y gall unrhyw un astudio cyrsiau, ni waeth ble maent yn byw neu ar ba adeg o’r dydd y maent yn dewis dysgu. Mae gan y brifysgol hefyd polisi mynediad agored, sy’n golygu na fydd angen unrhyw gymwysterau blaenorol ar fyfyrwyr.
Mae diwrnod agored gofal cymdeithasol ar-lein y Brifysgol Agored yng Nghymru ar ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022. Gellir cadw sesiynau rhwng 1.30pm a 2.30pm, a 6pm-7pm. I ddarganfod mwy neu i gadw lle, ewch i open.ac.uk/cymru/cy/digwyddiadau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle