Annog gofalwyr di-dâl i wneud cais am eu taliad o £500

0
901
senior woman with home caregiver

Mae gofalwyr di-dâl yn y De yn cael eu hannog i wneud cais am daliad o £500 i helpu gyda’r costau cynyddol sy’n gysylltiedig â gofalu yn ystod yr argyfwng costau byw.

Hyd yma mae 78% o ofalwyr cymwys yn y De wedi gwneud cais, gyda mwy na 16,400 o hawliadau wedi’u talu i ofalwyr di-dâl yn yr ardal. Mae Gweinidogion yn galw ar y gofalwyr di-dâl sydd heb ddod ymlaen, i wneud hynny.  

Rhaid i ofalwyr di-dâl a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth eleni gofrestru gyda’u hawdurdod lleol erbyn 15 Gorffennaf 2022 i gael y taliad.

Bydd y taliad, sy’n cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol y mae llawer yn ei wynebu, o fudd i filoedd o’r gofalwyr di-dâl mwyaf agored i niwed yng Nghymru, sy’n aml yn gofalu am hiraf ac sydd ar yr incwm isaf.

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n gofalu am bartner, perthynas neu ffrind sydd â salwch neu anabledd. Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos, sy’n gofalu am rywun sy’n cael budd-daliadau penodol, ac sy’n ennill dim mwy na £128 yr wythnos.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

Rydym yn eithriadol o falch o’n gofalwyr di-dâl yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn cael trafferth gwneud amser iddyn nhw eu hunain oherwydd eu rôl ofalu.

Rydym yn deall na fydd pob gofalwr di-dâl yn gymwys i gael y taliad hwn gan nad yw pob un yn cael Lwfans Gofalwr, a byddwn yn parhau i gefnogi gofalwyr o bob oed sut bynnag y gallwn. Yn ystod Wythnos Gofalwyr, cyhoeddais barhad ein Cronfa Gymorth lwyddiannus i Ofalwyr dros y tair blynedd nesaf.

Rwy’n gobeithio y bydd y taliad hwn o £500 o gymorth i liniaru’r pwysau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl, yn ogystal â chydnabod gwerth eu rôl ofalu i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb wneud cais am y taliad i ddod ymlaen a hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle