“Ni’n cynhyrchu seidr nawr!”  Seidr Pisgah Chi yn cael dechrau da, diolch i gymorth gan Agrisgôp

0
289
(L-R) Sion Davies, Dilwyn Williams, Elen Pencwm, Rhodri Davies, Dylan Jenkins, John Hopkins

I griw bach o ffermwyr entrepreneuraidd sy’n byw ger Pisgah, pentref bach yng Ngogledd Ceredigion, roedd gweld miloedd o afalau heb eu casglu neu wedi cwympo mewn gerddi lleol ar ddiwedd bob haf yn gyfle perffaith i sefydlu busnes ecogyfeillgar newydd sy’n ariannu ei hun.  

Aeth y criw ati i gasglu afalau am y tro cyntaf ar ddiwedd haf 2020, cyn eu gwasgu i gynhyrchu 1,000 o boteli ‘Seidr Pisgah Chi’, seidr sych traddodiadol a oedd wedi gwerthu i gyd cyn pen pythefnos y llynedd. Cafodd afalau’r haf diwethaf eu casglu ym mis Medi’r llynedd, ac maent bellach yn eplesu mewn casgenni 30-litr, yn barod i gael eu poteli yn y gwanwyn, ac mae mwy o goed afalau a pherllannoedd wedi’u plannu, yn barod ar gyfer cnwd yr haf.

“Mae’n gyffrous iawn, gan fod hwn yn fusnes sy’n barod i ddatblygu a thyfu ymhellach,” dywedodd Elen Pencwm, a gefnogodd y darpar-entrepreneuriaid yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio. Agrisgôp yw un o raglenni datblygiad personol mwyaf llwyddiannus Cyswllt Ffermio, ac mae’n dod â ffermwyr a choedwigwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau busnes. Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ar ddechrau 2019, roedd Siôn a Rhodri Davies, dau frawd sy’n ffermio, wedi dechrau sgwrsio gyda’u ffrindiau a’u cymdogion i weld a oedd ganddynt ddiddordeb mewn sefydlu menter newydd. Byddai’r criw o bump yn aml yn cyfarfod yn y dafarn leol, a byddai’r sgwrs bob amser yn troi at drafod syniadau ar gyfer menter o’r fath.

Ch-Dd) John Hopkins, Dilwyn Williams, Elen Pencwm, Rhodri Davies, Dylan Jenkins, Sion Davies

Roedden nhw eisiau rhoi eu holl egni i brosiect a fyddai’n eu cyffroi a’u herio – rhywbeth a fyddai’n galluogi pob un ohonynt i wneud y mwyaf o’u cryfderau, ond a fyddai’n rhoi cyfle i ddysgu sgiliau newydd, hefyd. 

“Yn wreiddiol, roedden ni’n credu y byddai’n ddigon i ni fwynhau’r profiad o weithio gyda’n gilydd at nod cyffredin, ond diolch i Agrisgôp, cefnogaeth sylweddol gan Brifysgol Aberystwyth a chwsmeriaid ffyddlon sy’n cynyddu o hyd, gallwn weld potensial i dyfu, ac mae hyn yn ein sbarduno i ddal ati,” meddai Dilwyn Williams, aelod o’r grŵp sy’n rhannu ei amser rhwng gofalu am y defaid ar ei dyddyn bach a’i swydd arbenigol fel rhwymwr llyfrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Roedd Elen yn adnabod y rhan fwyaf o’r grŵp yn barod, a gan eu bod nhw wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, cynigiodd sefydlu grŵp Agrisgôp newydd ar eu cyfer yn ystod mis Mehefin 2019. Gwnaeth eu hannog i siarad yn agored ac yn onest am eu nodau, ac ar ôl ystyried pob math o syniadau, roedd y pum ffermwr yn unfrydol o blaid sefydlu’r fenter cynhyrchu seidr.

Cyfarfu’r grŵp wyneb yn wyneb sawl Gwaith, cyn i gyfyngiadau’r pandemig eu gorfodi i gynnal cyfarfodydd ar-lein. Aeth Elen ati i wahodd nifer o siaradwyr arbenigol i roi cyngor iddynt ar faterion fel casglu a phrosesu’r afalau, potelu, brandio a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Gwnaeth hi hefyd eu cyflwyno i Chris Charters, cadeirydd Cymdeithas Perai a Seidr Cymru, yn ogystal â’r bridiwr planhigion a’r genetegydd Dr Danny Thorogood o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth. Yn ddiweddar, sefydlodd Dr Thorogood berllan dreftadaeth newydd ar gampws y Brifysgol yng Ngogerddan, a fydd yn diogelu dros 60 o goed ffrwythau prin rhag difodiant. 

“Roedd cyfarfod Dr Thorogood, a ddywedodd wrthon ni y gallen ni ddefnyddio offer malu a gwasgu ffrwythau prosiect Beacon Wales y brifysgol, nes ein bod ni’n barod i fuddsoddi yn ein hoffer ein hunain, yn ysbrydoliaeth fawr,” dywedodd Mr Williams.

Erbyn yr hydref 2020, roedd y pump wedi gofyn am ganiatâd perchnogion y coed afalau â ffrwythau heb eu defnyddio; roedden nhw wedi llunio rota ‘pwy sy’n mynd i ble’, ac roedden nhw wedi neilltuo penwythnos penodol ar gyfer casglu’r ffrwythau.

“Er bod gan bob un ohonon ni fywydau prysur, gwnaethon ni weithio’n galed iawn y penwythnos hwnnw, yn pentyrru miloedd o afalau mewn cewyll, bocsys ac unrhyw gynwysyddion mawr y gallen ni gael gafael arnyn nhw, cyn gadael am Ogerddan yn gynnar y bore Llun canlynol yn rhes hir o faniau, tractorau a threlars – unrhyw beth oedd ar gael, a dweud y gwir!

“Gydag anogaeth aelodau cefnogol o’r teulu ac Elen Pencwm, sydd wedi bod yn wych bob cam o’r ffordd, roedd y penwythnos yn cynnwys llawer o fflasgiau thermos, brechdanau a chacennau – ac roedd pob un ohonon ni’n cytuno mai dyma’r hwyl a’r teimlad gorau o gyfeillgarwch i ni ei gael ers blynyddoedd,” dywedodd Dilwyn.

O dan lygad barcud arbenigwyr Gogerddan, dysgodd y grŵp sut i brosesu eu seidr cartref newydd, ei roi drwy seiffon (racking) a’i botelu. Gwnaethon nhw hefyd wneud cais am drwydded alcohol hollbwysig.

Erbyn y Nadolig, roedden nhw’n barod i dargedu tafarndai a bwytai, yn ogystal â phobl leol a oedd yn awyddus i flasu’r ddiod newydd.

Diolch i Elen, roedd sianeli ‘Pisgah Seidr Chi’ yn barod ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y farchnad Nadolig, a chyda llun proffesiynol o’r ‘pump’ yn gwisgo dillad fferm o droad y ganrif yn addurno’r labeli, roedd y prynwyr wrth eu bodd.

“Mae Elen wedi ein cefnogi ni ar hyd y daith, ac roedd hi yno i’n helpu ni i ddathlu pan wnaethon ni werthu’r botel olaf – 1,000 o boteli mewn pythefnos – mewn pabell ym maes parcio tafarn yr Halfway, man cychwyn yr holl gynllun.”

Felly, beth fydd y cam nesaf i’r criw mentrus hwn? 

“Rydyn ni’n benderfynol o adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma drwy ddod o hyd i ragor o afalau, gwneud rhagor o seidr a chymryd rhagor o archebion!” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle