Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Academi Gofal newydd sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol.
Yn agored i bob oedran, bydd yr Academi yn darparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus, gan eu galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu a dewis llwybr gyrfa sydd fwyaf addas iddynt.
Drwy gyfuniad o addysg a hyfforddiant yn y swydd, mae cyfleoedd amrywiol i archwilio’r amrywiaeth o rolau gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol sydd ar gael.
Rhaid i bob ymgeisydd fod ag o leiaf ddau TGAU (gradd A* – D) neu gymhwyster cyfwerth mewn Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol: âMae ein Hacademi Gofal newydd yn cynnig cyfleoedd gwych i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gofal neu waith cymdeithasol.
Gallai ymgeiswyr llwyddiannus ennill gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster rheoli lefel pump, ond mae cyfleoedd hefyd drwy gydol y rhaglen i ddod o hyd i rĂ´l arall os nad yw ennill gradd yn addas i chiâ.
âOs oes gennych agwedd gadarnhaol a brwdfrydig a’ch bod yn chwilio am y cam cyffrous cyntaf mewn gyrfa newydd yna rydym am glywed gennych a byddem yn croesawu eich cais.â
Ewch i Carmarthenshire.gov.wales/academigofal I gael rhagor o wybodaeth
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle