£48m i helpu diwydiant bysiau Cymru i oroesi a ffynnu

0
796

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw fod pecyn cymorth gwerth £48m yn cael ei roi i’r diwydiant bysiau yng Nghymru i’w helpu i ymadfer o effeithiau’r pandemig ac i ymateb i’r heriau ariannol sy’n ei wynebu.

Bydd y Pecyn Brys ar gyfer Bysiau yn cau’r ‘bwlch ariannol’ tan ddiwedd y flwyddyn er mwyn i weithredwyr bysiau allu cynnal y gwasanaethau a’r llwybrau sy’n angenrheidiol yn eu hardal. Y tâl am hynny yw mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau Cymru.

Mae’r pecyn ariannol hwn yn un o nifer o fesurau tymor byr sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru i helpu gweithredwyr bysiau, hynny pan fo’r angen fwyaf.  O ran dyfodol tymor hwy y diwydiant, caiff adolygiad o’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (BSSG) ei gynnal i weld sut y gellid ei ddefnyddio i dorri dibyniaeth y diwydiant ar gynlluniau cyllido brys a phontio’r bwlch i fasnachfreinio.

Wrth gyhoeddi’r pecyn cyllido brys diweddar, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae’r diwydiant bysiau’n ymddangos o’i gyfnodau anoddaf erioed a rhaid parhau i helpu i ymadfer a sicrhau dyfodol iach.

“Yn ystod y pandemig, gwelwyd rhyw 90% o gwymp yn nifer y teithwyr ac mae’r niferoedd ond wedi codi i 50% i 70% o’u lefelau cyn Covid.  Mae gweithredwyr felly’n gorfod dygymod â llai o refeniw a hefyd â heriau’r cynnydd diweddar mewn costau tanwydd a gweithredu.

“Mae’r pecyn ariannol rwyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn ateb tymor byr i helpu’r diwydiant i ddechrau ymadfer o’r heriau y bu’n rhaid iddo eu hwynebu ac sy’n dal yn ei wynebu wrth i ni ddatblygu ateb mwy tymor hir i daclo’r gostyngiad graddol a fu yn nifer y teithwyr dros y blynyddoedd.

“Ym mis Mawrth, disgrifiais ein cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i newid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n cael eu darparu ledled Cymru.  Byddwn yn gweithio’n glos â llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a theithwyr gydol y broses i ddylunio system sy’n hawdd ei defnyddio, yn hygyrch ac sydd wedi’i chysylltu’n dda, gan gynnig dull teithio sy’n wirioneddol gynaliadwy yn lle’r car preifat.

“Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn ddiweddarach yn y flwyddyn sut mae’r cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaenau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle