CAITLIN GAN WLTM PRODUCTIONS YN YMWELD Â RHYDAMAN A LLANELLI YR HAF HWN

0
308

Bydd cynulleidfaoedd yn Sir Gaerfyrddin yn cael gwledd yr haf hwn wrth i Caitlin, sef sioe un fenyw gan WLTM Productions, gyrraedd y llwyfan. Bywyd Caitlin Macnamara sydd o dan sylw, sef gwraig Dylan Thomas, a gafodd fywyd anodd. Bydd Caitlin yn cyrraedd Theatr y Glowyr, Rhydaman ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf am 7:30pm ac yna yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ddydd Mercher a dydd Iau, 13 a 14 Gorffennaf am 7:30pm.

Bu Dylan Thomas farw yn 39 oed, a chyn hynny bu ef a’i wraig, Caitlin, yn treulio’u hamser yn meddwi, yn goryfed ac yn cweryla ar draws bariau Prydain yn y 1930au a’r 40au. Roedd eu priodas yn un gythryblus ac angerddol ac roedd enw ganddynt am fod yn wyllt. Yn serennu Christine Kempell ac wedi’i chyfarwyddo gan Steve Elias, mae’r sioe un fenyw hon gan Mike Kenny yn adrodd hanes y pâr, a hynny yng ngeiriau Caitlin ei hun.

Roedd Caitlin a Dylan yn gariadon, yn artistiaid ac yn fohemiaid gwych, yn cymysgu ag artistiaid ac awduron eraill yr oes honno, gan dreulio’u holl amser mewn tafarndai, yn gwneud pethau gwarthus ac yna’n cael maddeuant. Er bod rhinwedd athrylithgar drasig Dylan yn esgusodi’i ymddygiad, mae cymeriad Kenny’n teimlo bod hanes wedi’i barnu hi’n fwy llym fel mam, yn briod â ‘Llais Duw’ ac yn gorfod rhoi ei huchelgeisiau ei hun fel dawnsiwr naill ochr. Mae Caitlin yn adrodd eu stori o’i safbwynt hi ac yn datgelu rhai mewnwelediadau syfrdanol am eu perthynas ddinistriol.

Bydd WLTM Productions yn dod â’r sioe i Gymru cyn mynd i Ŵyl Ymylol Caeredin. Mae Christine Kempell yn falch iawn o ymgymryd â rôl Caitlin a dywedodd, “Mae’r rhan hon yn rhodd i fenyw o’m hoedran i. Yn gefn i’r bardd llwyddiannus hwn o Gymru roedd menyw bwerus iawn a aberthodd bopeth i’r dyn roedd yn ei garu. Ni allai fod wedi cyflawni’r hyn a wnaeth hebddi. Mae Caitlin yn trafod ei bywyd a’r dewisiadau a wnaeth mewn modd cignoeth, gonest a heb ymddiheuriad. Mae hwn yn ymson i’r menywod coll ym mhobman y mae eu straeon yn haeddu cael eu hadrodd.”

Mae Christine Kempell (Coronation Street) a Steve Elias, y cyfarwyddwr (Our Dancing Town), yn dod o Gaerfyrddin, a dywedodd Steve, “Rydym wrth ein bodd ein bod yn mynd i leoliadau sydd yn agos at gartref a’n calonnau yng Nghymru. Rydym yn gobeithio cael digon o gefnogaeth gan ffrindiau a theulu, ynghyd ag unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn dysgu am y cymeriad cymhleth hwn a chlywed am ochr wahanol i Dylan Thomas, a hynny gan y fenyw a oedd yn ei adnabod orau”.

Pris y tocynnau ar gyfer Caitlin yw £12.50 (consesiynau £10.50) a gellir eu prynu ar-lein drwy fynd i http://www.theatrausirgar.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle