Llyfr barddoniaeth yn codi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
428
Llyr Jones with a copy of the book

Mae Ann Jones yn codi arian at Apêl Cemo Bronglais ar ôl i’w gŵr, mam a brawd dderbyn triniaeth yn uned ddydd cemotherapi’r ysbyty.

Mae Ann, athrawes lanw 58 oed a mam i dri o blant, yn gwerthu llyfrau o farddoniaeth ei diweddar ŵr ac eisoes wedi codi mwy na £1,000 i’r Apêl, sydd â’r nod o godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar uned ddydd cemotherapi newydd, bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Cafodd gŵr Ann, Rob, driniaeth yn yr uned ddydd am 14 mlynedd ar ôl cael diagnosis o myeloma ymledol yn 42 oed.

Rob and Ann, with Llyr, Gwenan and Ffion

Mae ei mam 81 oed, Joyce Phillips, hefyd yn cael ei thrin yn yr uned ar hyn o bryd ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn ar ddechrau’r cyfyngiadau symud, ynghyd â brawd Ann, 60 oed, Michael Phillips, sy’n cael ei fonitro ar hyn o bryd ar ôl gorffen cemotherapi yn dilyn diagnosis o ganser y coluddyn ei hun.

Roedd Rob, ffermwr, bob amser yn llawn canmoliaeth am y driniaeth a gafodd yn yr uned ddydd ac, ar ôl iddo farw yn 2018, penderfynodd Ann gyhoeddi llyfr o’i gerddi i godi arian i’r uned.

Dywedodd Ann, sy’n byw ger Llangwyryfon yng ngogledd Ceredigion: “Roedd Rob wastad yn derbyn gofal mor wych ac mae fy mam a fy mrawd hefyd yn cael yr un gofal o’r radd flaenaf ar hyn o bryd, felly fel teulu roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i helpu gyda’r Apêl.

“Roedd Rob wrth ei fodd yn ysgrifennu cerddi ac yn aml byddai’n ysgrifennu rhai ar gyfer penblwyddi a phriodasau ffrindiau a theulu. Roedd bocs mawr yn llawn ohonyn nhw. Felly, yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, fe benderfynon ni eu didoli a’u cyhoeddi mewn llyfr.

“Fe gawson ni 200 copi o Cerddi Rob Ty Cam wedi’u hargraffu’r adeg yma’r llynedd a dim ond tua 70 copi sydd ar ôl. Mae’r llyfr mewn adrannau, yn cynnwys limrigau, cerddi ar gyfer penblwyddi a phriodasau pobl, cerddi i blant, cerddi digrif, a rhai cerddi serch a ysgrifennodd i mi yn ein dyddiau iau.

Ann, Gwenan and Ffion

“Unwaith y byddwn wedi gwerthu’r holl lyfrau, byddaf yn cyfrannu’r elw i Apêl Cemo Bronglais,” ychwanegodd Ann, sydd â mab, Llyr, 31 oed a dwy ferch, Gwenan, 28 a Ffion, 22.

“Rwyf wedi treulio llawer o amser yn yr uned ddydd yn y blynyddoedd diwethaf ac, er bod y gofal yn wych, nid oes digon o breifatrwydd, felly bydd yn wych gweld uned newydd gydag amgylchedd gwell a mwy o le i staff a chleifion a’u teuluoedd.”

Mae’r llyfr ar werth am £8 yn Siop Inc, Siop y Pethe a’r Farmer’s Co-op yn Aberystwyth, ac yn Swyddfa Bost Llanrhystud. Mae cynlluniau hefyd i’w gwerthu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst, ar stondin Siop Inc


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle