Plant yn rheoli Castell Caeriw y mis hwn

0
216
Capsiwn: Bydd Plant yn Rheoli'r Castell yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw rhwng 10am a 5pm ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf.

Unwaith yn gadarnle i freninwneuthurwyr, marchogion y deyrnas a thywysogesau hardd, y mis hwn bydd Castell Caeriw yn cael ei feddiannu gan blant yr oes hon.

Bydd digwyddiad Plant yn Rheoli’r Castell ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf yn nodi’r tro cyntaf erioed i atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drosglwyddo’r awenau i’r genhedlaeth iau, mewn diwrnod o adloniant ar gyfer pobl a phlant o bob oed.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau am ddim yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, gan gynnwys adrodd straeon, gwneud swigod, peintio tariannau, gwneud bomiau hadau a diodydd cymysg, gemau traddodiadol a gwisgo i fyny. Mae’r ffi mynediad arferol hefyd yn cynnwys teithiau amrywiol o amgylch y Castell, yr Ysgol Marchogion boblogaidd a’r sesiynau Horrid Histories, yn ogystal ag arddangos rhai o hoff gymeriadau’r plant.

Bydd hen ffair, Pembrokeshire Parkour, crwydro gydag alpacas, sŵ anifeiliaid anwes a stondinau eraill yn ffurfio gweddill yr atyniadau.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion iau (a’u teuluoedd!) i’r hyn sy’n argoeli i fod y diwrnod mwyaf hwylus eto. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw. Dewch draw ar y diwrnod a chewch ddewis y gweithgareddau sydd o ddiddordeb i chi.

“Mae hwyl yn gallu bod yn flinedig, felly os ydych chi eisiau ychydig o lonydd neu seibiant cyflym cyn ailgychwyn yr anturiaethau, bydd Ystafell De Nest yn gweini amrywiaeth blasus o ginio, cacennau a lluniaeth yn ystod y dydd.

“Am ddiwrnod perffaith i’r teulu, mae’r digwyddiad Plant yn Rheoli’r Castell yn cynnig rhywbeth sy’n addas i bob chwaeth a diddordeb.”

Bydd Plant yn Rheoli’r Castell yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw rhwng 10am a 5pm ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf.

I gael gwybod am ddigwyddiadau eraill ledled y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiada


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle