Dedfrydu dyn o Geredigion sy’n byw yn Iwerddon ar ôl bod ynghlwm â gwerthu cig anghyfreithlon

0
241

Mae dyn o Geredigion sy’n byw yn Iwerddon wedi cael ei estraddodi a’i ddedfrydu ar ôl iddo fod ynghlwm â ffermio anghyfreithlon a masnachu cig nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl.

Canfuwyd bod Robert Thomas, 45, yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gysylltiedig â rhedeg gweithgarwch anghyfreithlon yn ymwneud â chig, lle’r oedd “smokies” yn cael eu paratoi i’w bwyta gan bobl. Mae cynhyrchu “smokies” yn golygu lladd defaid yn anghyfreithlon, ac yn rhan o’r broses gynhyrchu mae’r cnu yn cael ei gadw ar y carcasau ac maent yn cael eu llosgi gyda lamp losgi i roi blas mwg i’r cig. Mae’r broses hon yn anghyfreithlon yn y DU a llawer o wledydd Ewrop.

Cafodd yr erlyniad cychwynnol ei gynnal gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2015, ond oherwydd dyfalbarhad Mr Thomas wrth osgoi cyfiawnder mae wedi cymryd 7 mlynedd i’r achos ddod i gasgliad. Roedd yr erlyniad yn ymwneud â Mr Thomas a dyn arall o Geredigion, sy’n dal i fod yn eisiau ar warant mewn perthynas â’r cyhuddiadau.

Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr 2015, cafodd Thomas ddedfryd o 28 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl. Yn ogystal, gorchmynnwyd achos atafaelu i geisio nodi ac adennill unrhyw asedau a gafodd Thomas drwy ei weithgareddau anghyfreithlon. Cynhaliwyd yr ymchwiliad atafaelu hwnnw gan swyddogion yn Uned Troseddau Economaidd Rhanbarthol Tarian gyda chymorth Cyngor Sir Ceredigion. Cynhaliwyd amryw o wrandawiadau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau, ac yn ystod y rheini rhoddodd Thomas dystiolaeth ar lw mai bach iawn oedd ei asedau a’i incwm.

Datganodd fod ganddo ddau hen gar a’i fod yn ennill dim ond £40 yr wythnos yn gweithio i’w rieni. Honnodd hefyd fod ganddo ddau gyfrif banc yn y DU heb unrhyw arian ynddynt a chyflwynodd gyfriflenni banc i brofi hynny. Dros gyfnod o dair blynedd, gwadodd Thomas yn barhaus fod ganddo fwy na hyn, ac ym mis Ebrill 2017 methodd ag ymddangos yn y llys.

Datgelodd ymchwiliadau pellach fod gan Thomas nifer o gyfrifon banc a bod ganddo eiddo a thir yn Iwerddon.

Yn dilyn hynny, cafwyd Gwarant Arestio Ewropeaidd, a daethpwyd o hyd iddo o’r diwedd yn Iwerddon. Cafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2021 gan awdurdodau Iwerddon a’i estraddodi i’r DU ym mis Chwefror 2022.

Ddydd Llun 13 Mehefin 2022, ymddangosodd Thomas yn Llys y Goron Bryste ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o dyngu anudon. Wrth ei ddedfrydu, disgrifiodd ei Anrhydedd y Barnwr Cullen weithredoedd Thomas fel ‘a considered lie and a practiced lie‘. Dywedodd hefyd fod rhoi tystiolaeth ffug ar lw i Farnwr yn fater difrifol na ellid ond ymdrin ag ef drwy garchar ar unwaith, a bod angen dedfryd sylweddol o garchar.

Dedfrydwyd Thomas i 22 mis o garchar am dyngu anudon ac am dorri Gorchymyn Cymunedol, cafodd ddedfryd o 2 fis o garchar i redeg yn olynol, gan wneud cyfanswm o 24 mis o garchar.

Y Cynghorydd Mathew Vaux yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd. Dywedodd: “Mae’r achos hwn wedi dangos y bydd gwasanaethau rheoleiddio yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol mewn partneriaeth er mwyn sicrhau cyfiawnder ar gyfer y troseddau difrifol hyn. Mae’r fasnach anghyfreithlon o ran “smokies” yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, gan fod y cig yn aml wedi’i heintio â chlefydau a pharasitiaid a allai gael eu trosglwyddo i’r bobl hynny sy’n bwyta’r cig. Mae’r anifeiliaid hefyd yn cael eu lladd mewn modd annynol heb ystyried eu lles, sy’n groes i egwyddorion y safonau lles anifeiliaid uchel sydd gan gymuned ffermio Cyngor Sir Ceredigion.”

Nid yw’r achos o dan y Ddeddf Enillion Troseddau wedi dod i ben gan nad yw Thomas wedi bodloni’r holl rwymedigaethau o dan y Gorchymyn. Daeth y Llys i’r casgliad fod yr enillion troseddol yn dod i gyfanswm o dros £200,000. Bydd Thomas felly yn wynebu achos cyfreithiol pellach.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle