Fel rhan o Strategaeth Gydol Oes a Llesiant ehangach Cyngor Sir Ceredigion, bydd Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn trawsnewid yn Ganolfan Llesiant.
Bydd y Ganolfan Lles yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n ystyried ac yn gwella agweddau corfforol, meddyliol a chymdeithasol lles unigolyn. Bydd y gwasanaethau Gydol Oes hyn yn cynnwys sgiliau a chyngor ynghylch swyddi, cymorth yn wyneb caledi ac mewn materion sy’n ymwneud â thai, gwasanaethau i bobl ifanc, cymorth i ofalwyr, cymorth cynnar o ran iechyd meddwl ayb.
Bydd y Ganolfan Lles hefyd yn ei gwneud hi’n haws i breswylwyr gael mwy o wybodaeth am holl wasanaethau’r cyngor a chael cyngor a chymorth gan y gwasanaethau hyn. Bydd darparu cyfleoedd i bobl wneud ymarfer corff yn parhau yn rhan greiddiol o’r Ganolfan Lles. Mae’r cynllun ailddatblygu yn cynnwys creu cyfres o ystafelloedd ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod, a bwriedir cynnwys stiwdio droelli ac ystafell amlbwrpas ar y llawr cyntaf gyda lle i gynnal dosbarthiadau ymarfer. Bydd yr adeilad yn dal i gynnwys prif neuadd chwaraeon.
Er mwyn cynorthwyo’r trawsnewid, bydd yn rhaid i Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan gau er mwyn sicrhau y gall y gwaith adeiladu hanfodol ddechrau. Disgwylir i’r gwaith ddechrau yng nghanol mis Gorffennaf 2022.
Mae cytundeb wedi’i roi ar waith gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddefnyddio eu cyfleusterau hamdden ar Gampws Llanbedr Pont Steffan tra bo’r gwaith yn cael ei wneud, sy’n golygu y bydd darpariath ar gyfer holl ddefnyddwyr presennol y Ganolfan Hamdden.
Mae’r Cyngor a’r Brifysgol wedi ymrwymo i barhau i gydweithio hyd yn oed ar ôl adeiladu’r Ganolfan Llesiant, er mwyn sicrhau bod darpariaeth o fewn Llanbedr Pont Steffan i’r holl chwaraeon a gweithgareddau sy’n cael eu chwarae yn y Ganolfan Hamdden ar hyn o bryd barhau a datblygu.
Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Bydd y buddsoddiad cyfalaf sylweddol hwn yng Nghanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn sicrhau dyfodol y Ganolfan, ond bydd hefyd yn diwallu anghenion cynyddol plant, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd Llanbedr Pont Steffan a’r ardal gyfagos.”
Bydd modd dechrau defnyddio’r cyfleusterau ar Gampws Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 a bydd modd defnyddio’r cyfleusterau hyn hyd nes y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ym misoedd cyntaf 2023.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle