Mabolgampwyr Ceredigion yn cymryd rhan yn Nhaith Cyfnewid Baton y Frenhines

0
210

Mae 16 o fabolgampwyr Ceredigion, a enillodd anrhydeddau rhyngwladol yn eu dewis gampau, yn paratoi i fod yn Gludwyr Baton ar 30 Mehefin.  Ar y dyddiad hwnnw, bydd Taith Cyfnewid Baton Brenhinol Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022 yn ymweld â’n sir yn ystod ei thaith drwy Gymru. 

Dyma olwg fanylach ar y mabolgampwyr sy’n cymryd rhan a’r hyn y maent wedi ei gyflawni:

  • Cameron Allen Dewiswyd Cameron, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Penglais, i fod yn aelod o sgwad dan 18 oed Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru.  Mae Cameron newydd ddychwelyd o Rufain lle chwaraeodd gyda’r sgwad yn Nhwrnamaint Roma Caput Mundi.  Uchelgais Cameron yw bod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol.
  • Ruadhán O’Regan Mae Ruadhán, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Penglais, wedi cynrychioli Hoci Gogledd Cymru ers Blwyddyn 7 (mae e nawr ym Mlwyddyn 11) ac fe’i dewiswyd i chwarae dos Gymru yng Ngrwpiau Oedran Cenedlaethol dan 16 yn ystod tymhorau 2020-21 a 2021-22.  Bellach mae gan Ruadhán Gapiau Rhyngwladol wedi iddo chwarae mewn cyfres brawf 3 diwrnod a gynhaliwyd yn Belfast, Glasgow a Lloegr.  Mae e’n Llysgennad dros Hoci Cymru ac mae e’n cynorthwyo i hyfforddi a dyfarnu timau iau yn ei glwb hoci lleol ac yn ei ysgol uwchradd.  Mae e bellach yn chwarae i dîm dynion Abertawe, mae e’n rhan o lwybr datblygu Hoci Cymru ac mae’n anelu at fynd yn ei flaen i fod yn aelod o’r sgwad dan 18. 
  • Órla O’Regan Mae Órla, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Penglais, yn sgwad Hoci dan 18 Cymru ac mae hi newydd ddychwelyd ar ôl chwarae mewn cyfres brawf ryngwladol 3 diwrnod yn erbyn yr Alban yn Glasgow.  Mae Órla wedi cynrychioli Gogledd Cymru ers pan oedd hi ym Mlwyddyn 8 ac mae hi bellach yn chwarae yn sgwad dan 18 oed Gogledd Cymru.  Mae hi’n Llysgennad dros Hoci Cymu ac mae’n cynorthwyo i hyfforddi a dyfarnu timau iau yn ei chlwb lleol a’i hysgol.  Mae hi hefyd wedi chwarae i dîm Menywod Prifysgol Aberystwyth ac ar hyn o bryd mae hi’n chwarae i Dîm Hoci Abertawe yn Nghynghrair Menywod De Cymru. 

          
           Dechreuodd Órla a’i brawd Ruadhán chwarae hoci yn Ysgol Gynradd Padarn Sant, gan fynd yn eu blaen i chwarae hoci clwb gyda chlwb hoci Bow Street ac yna  gyda chlwb hoci Dysynni.  

  • Fin Tarling Mae Fin, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, yn aelod o dîm seiclo dan 16 Cymru ac mae wedi cynrychioli Cymru yn Ngemau Ysgolion y DU (UK Schools Games) a’r ras feicio Tour of Scotland. Fe yw pencampwr Prydain ac mae’n bencampwr Cymru sawl gwaith ar y trac a’r ffordd. Mae’n enillydd medal aur yng nghystadleuaeth Gemau’r Ysgolion gan feicio dros Gymru.  Mae’n rhan o Dîm Belgian Flanders Color ac mae wedi ennill rasys niferus yn Ewrop.
  • Josh Hathaway Chwaraewr rygbi yw Josh, cyn-ddisgybl yn Ysgol Penglais a dderbyniodd ysgoloriaeth rygbi i astudio Diploma Cenedlaethol Chwaraeon Lefel 3 (Rygbi) yng Ngholeg Hartpury.  Bu’n gymorth i sicrhau na chollodd tîm dan 18 Hartpury Ace yr un gêm drwy gydol y tymor, gan ennill Gêm Derfynol Pencampwriaeth Cynghrair Academïau, Colegau ac Addysg (ACE League) ym mis Rhagfyr 2021.  Er mai newydd gael ei ben-blwydd yn 18 oed oedd Josh, cafodd ei ddewis i sgwad dan 20 Cymru ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad ac yn y gystadleuaeth honno, mewn gêm yn erbyn yr Eidal, yr enillodd ei gap cyntaf ym mis Ebrill.  Mae e nawr yn edrych ymlaen at fod yn aelod o sgwad cystadleuaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf a hefyd at gymryd rhan yng Nghwpan Rygbi Iau y Byd yn Ffrainc yn 2023. 
  • Daniel Henchie Jones Ymunodd Daniel o Swyddffynnon â Chlwb Pêl- fasged Aberystwyth ychydig cyn y cyfnod clo.  Erbyn hyn, mae wedi ennill lle yn nhîm pêl-fasged bechgyn dan 16 Cymru ac mae e eisoes wedi cynrychioli Cymru yn Nhwrnamaint y Pedair Gwlad yn Dundee ym mis Mai 2022.  Mae Daniel yn mwynhau gwirfoddoli i gynorthwyo chwaraewyr iau i ddysgu a chwarae ac yn y dyfodol, mae’n gobeithio dilyn gyrfa mewn chwaraeon. 
     
  • Jade Whitlock Symudodd Jade i Aberystwyth i astudio yn y Brifysgol a chwaraeodd gyda thîm doj-bêl y brifysgol. Cynrychiolodd Brifysgol Aberystwyth mewn nifer o dwrnameintiau pwysig ledled y wlad ac roedd hi’n ddigon ffodus i gael ei dewis i Sgwad Doj-bêl Cymru yn 2020.  Mae Jade yn cadw ei lle yn y sgwad ar gyfer 2022 ac mae’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru mewn twrnameintiau a digwyddiadau rhyngwladol yn y dyfodol. 
  • Alex Hammel Ar hyn o bryd, mae Alex yn chwarae pêl-droed i Benrhyncoch a phêl-fasged i Glwb Pêl-fasged Aberystwyth.  Roedd e’n aelod o sgwadiau pêl-fasged dan 12 a than 14 Cymru a chafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru gyda Thîm Cenedlaethol Pêl-Fasged Bechgyn dan 15.  Enillodd Alex ei gap cyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Mai 2022.  Mae e’n Llysgennad yn ei glwb, mae’n helpu i roi gwersi pêl-fasged i blant ysgol gynradd a dechreuodd hyfforddi yn Ysgol Penglais, a chyda’i dîm llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol adran iau  Cymdeithas Pêl-fasged Genedlaethol Cymru.
  • Casi Gregson Disgybl yn Ysgol Gyfun Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan yw Casi ac mae hi’n cystadlu mewn llawer o gampau chwaraeon, gan gynnwys athletau.  Yn y gorffennol, mae hi wedi cystadlu yng nghystadlaethau athletau Gorllewin Cymru, Ysgolion Cymru a Phencampwriaethau Cymru.  Fodd bynnag, ym maes pêl-droed y cafodd ei llwyddiant diweddaraf, wedi iddi sicrhau lle yn sgwad pêl-droed merched dan 16 Cymru ac roedd hi’n ddigon ffodus i chwarae dros Gymru ym mis Tachwedd 2021.   Yr uchafbwynt ar y cae pêl-droed i Casi oedd buddugoliaeth tîm dan 16 Cymru o 2 gôl i 1 yn erbyn Lloegr, a hithau’n sgorio gôl dyngedfennol i Gymru.  
  • Daniel Berry Symudodd Daniel i Aberaeron dros bedair blynedd yn ôl i fyw gyda’i fam-gu a dechreuodd chwarae pêl-fasged cadair olwyn yn Aberystwyth.  Mae e nawr yn cynrychioli Cymru yn y sgwad iau dan 14 oed a thîm bechgyn Cymru ar gyfer cystadleuaeth Gemau’r Ysgolion.  Mae e hefyd wedi hyfforddi gyda’r tîm dynion rhagbrofol ar gyfer gemau’r gymanwlad.  Ganwyd Daniel â chyflwr niwrolegol prin, o’r enw Dystonia, sy’n effeithio ar ei holl gyhyrau. 
  • Kai Frisby Roedd Kai, o Aberystwyth, yn saith oed pan chwaraeodd bêl- fasged cadair olwyn am y tro cyntaf, a hynny ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei glun, oherwydd ei fod wedi ei eni â Pharlys Ymenyddol sy’n effeithio ar bob rhan o’i ochr dde, yn ogystal â’i goes chwith.  Ers hynny, mae e wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-fasged cadair olwyn yng Ngemau’r Lord Taverners yn 2018 ac eto yn 2019 (dan 15). Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Ysgolion yn 2021 ac roedd yn rhan o dîm hŷn pêl-fasged cadair olwyn yn nhreialon 2022 ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.  
  • Jac Sheehan Mae Jac yn ddisgybl yn Ysgol Penglais ac yn aelod o Chwaraeon Anabledd Cymru.  Mae e wedi ennill nifer o fedalau dros Gymru wrth gystadlu gyda’r ddisgen, y pwysau a’r waywffon.  Cafodd Jac ddiagnosis o Barlys Ymenyddol pan oedd yn ifanc ac yn ddiweddarach datblygodd epilepsi; mae’r ddau gyflwr yn effeithio ar ei gydsymud a’i symudedd.  Mae e’n hyfforddi ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer treialon Tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn Cymru. 
  • Melanie Thomas Mae Melanie o Lanbedr Pont Steffan wedi cystadlu mewn llawer o chwaraeon dros y blynyddoedd.  Enillodd ei chap cyntaf i Gymru wrth chwarae pêl-droed i dîm dan 16 Merched Cymru ac aeth yn ei blaen i gynrychioli Cymru dan 19 oed.  Wedyn, dechreuodd Melanie fowlio ac mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn llawer o gystadlaethau cenedlaethol, gan ennill teitl senglau’r menywod, ennill medal aur gyda chyd-aelodau ei thîm yng nghystadleuaeth y tîm o bedwar ym Mhencampwriaethau’r Iwerydd.  Enillodd fedal arian wrth chwarae mewn pâr ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Byd yn Awstralia.   Mae hi’n aelod o sgwad elît y menywod ac yn aelod wrth gefn nad yw’n teithio ar gyfer Birmingham 22.  Mae Melanie yn was sifil yn Llywodraeth Cymru ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn adain y gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. 
  • Alis Butten  Mae Alis Butten o Glwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan yn chwarae bowls lawnt dros Gymru dan 25 ac yn chwaraewr hŷn.  Yn ystod ei gyrfa fowlio hyd yma, hi oedd y ferch ieuengaf i chwarae i’r tîm hŷn rhyngwladol, mae hi wedi ennill nifer o deitlau ar lefel sirol ac ar lefel Cymru ac yn ddiweddar cafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Ayr ym mis Gorffennaf. Iddi hi, pinacl ei gyrfa hyd yma yw ennill y gystadleuaeth fowls i barau gyda’i mam, Anwen Butten. 
  • Hari Butten Aelod o Glwb Bowls Llanbedr Pont Steffan sy’nchwarae bowls lawnt dan 25 dros Gymru yw Hari Butten. Mae e wedi ennill capiau dros Gymru yn ystod y gyfres fowlio lawnt ryngwladol dan 25 yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae e hefyd wedi ennill cystadlaethau agored niferus ledled Cymru yn ogystal â bod yn Bencampwr presennol y sir yn y Gemau i driawdau.  Yn ei waith o ddydd i ddydd, mae e’n Swyddog Gofalu am Ddioddefwyr gyda Heddlu Dyfed-Powys ac mae e hefyd yn Gwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu De Cymru ym Mae Caerdydd. 
  • Anwen Butten Mae Anwen yn chwarae bowls lawnt i Glwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan ac mae hi wedi cynrychioli Cymru ers 1989 ar lefelau iau, hŷn ac elît.  Mae wedi bod mewn pedair pencampwriaeth byd, pum Pencampwriaeth yr Iwerydd ac mae wedi cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad bum gwaith.   Mae hi wedi bod yn ffodus o gael teithio’r byd wrth gynrychioli Cymru.  Mae Anwen wedi ennill dros 16 medal yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf ac mae hi wedi ennill teitlau dros Gymru a Phrydain. Bydd Anwen yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham eleni.  Dyma fydd y chweched tro o’r bron iddi gystadlu.  Wrth ei gwaith bob dydd, mae Anwen yn Nyrs Arbenigol y Pen a’r Gwddf gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Bydd Jamie James o Glwb Bowlio Aberystwyth a Hawys Medi Richards o Reilffordd Cwm Rheidol yn ymuno â nhw er mwyn cydnabod y cyfraniad mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn y sir.  Bydd cyfanswm o 18 unigolyn yn cludo’r baton.

  • Jamie James Un o Aberystwyth yw Jamie a dechreuodd chwarae bowls pan oedd yn 14 oed ac mae wedi cynrychioli Ceredigion am y 15 mlynedd diwethaf.  Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf,  fe yw’r chwaraewr sydd wedi bod yn gyfrifol am Geredigion (skip).  Yn ystod tymor 2021, enillodd Jamie bencampwriaeth parau’r sir a chyrhaeddodd y rownd derfynol yn y senglau.  Mae Jamie yn Gydlynydd Cymorth a Chyrhaeddiad, mae’n rheoli’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwyaf bregus ysgolion cynradd Ceredigion.
  • Hawys Medi Richards o Giliau Aeron yw merch 13 mlwydd oed Aled Richards, un o beiriannwyr Rheilffordd Cwm Rheidol. Mae Hawys yn seiclwraig frwd ac yn aelod o Glwb Seiclo Gorllewin Cymru ac, yn ystod y 15 mis diwethaf, cododdd £7,000 ar y cyd â’i theulu ar gyfer tair elusen agos at eu calonnau yn dilyn eu methiant yr arennau ym mis Rhagfyr 2020 (Noahs Ark, Aren Cymru a Ronal McDonald). Derbyniodd Hawys drawsblaniad aren ym mis Rhagfyr 2021 gan ei fam.

Dyma rai o’r gweithgareddau a fydd yn digwydd pan fydd y baton yng Ngheredigion:

  • Taith Cyfnewid y Baton, o Ganolfan Hamdden Plascrug i Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug) (14:15 i 14:30) 
  • Bydd Taith Cyfnewid y Baton yn parhau o Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug) i Reilffordd Cwm Rheidol (14:45 i 15:30) 
  • Bydd y Baton yn mynd ar daith drên i Gapel Bangor (15:45) 

Y llefydd gorau i wylwyr weld Taith Cyfnewid y Baton yw ar hyd Plascrug a Rheilffordd Cwm Rheidol, er bydd y baton hefyd yn teithio ar hyd palmentydd Ffordd Alexandra a Choedlan y Parc.

Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros y Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden a Chwsmeriaid: “Mae’n wych gweld cynifer o drigolion y Sir yn rhan o groesawu’r baton i Geredigion.  Mae pob un yn lysgennad gwych, boed yn bencampwr ym maes chwaraeon, athletau neu seiclo; neu wedi dangos dewrder wrth dderbyn triniaeth meddygol. Mae’n nhw’n ysbrydoliaeth i ni bawb.”

Bydd gwefan Tîm Cymru’n cael ei diweddaru yn ystod yr wythnosau newydd er mwyn cynnwys gwybodaeth a manylion pellach ynghylch y digwyddiadau a lle i sefyll wrth i’r baton fynd ar ei daith;  https://teamwales.cymru/cy/events/queens-baton-relay/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle