Adfer mesurau yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd cynnydd mewn achosion o COVID-19

0
296

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o weithgarwch yn ei ysbytai, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi adfer nifer o fesurau yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19.

Dyma’r mesurau (diweddarwyd 5PM, ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022):

  • Holl staff ac ymwelwyr ag Ysbyty Llwynhelyg i wisgo masgiau (oni bai eu bod wedi’u heithrio) ar safle’r ysbyty
  • Gohirio ymweliadau â chleifion/wardiau o ddydd Mawrth 5 Gorffennaf, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau a ystyrir yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward. Bydd ymweliadau a drefnwyd ar gyfer dydd Llun 4 Gorffennaf yn mynd rhagddynt fel y cynlluniwyd.
  • Pobl sy’n mynychu apwyntiadau cleifion allanol i fynychu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas. Gall partner dynodedig fod yn bresennol mewn apwyntiadau neu sganiau cyn-geni a phan fydd mam neu berson geni yn cael ei derbyn yn ystod y cyfnod esgor i’r Uned dan Arweiniad Bydwragedd
  • Profi pob claf cyn derbyn i’r ysbyty

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad i atgyfnerthu’r mesurau hyn yn Ysbyty Llwynhelyg i leiahu’r risg i’n cleifion a’n staff. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth a chydweithrediad ar yr adeg hon.

“Er y bydd y sefyllfa yn Ysbyty Llwynhelyg ac ar draws ein hysbytai eraill yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n aml, gallwn ni i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i amddiffyn pobl agored i niwed a’r Gwasanaeth Iechyd.

“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a gwneud prawf llif ochrol. Os yw’n bositif, rydym yn eich annog i ynysu – bydd hyn yn eich helpu orffwys a gwella tra’n amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Gall aelodau’r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19 barhau i archebu prawf llif ochrol yng Nghymru am ddim, tan 31 Gorffennaf, yn www.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) a chwilio am ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’. Os nad ydych chi – neu rywun rydych yn gofalu amdano – ar-lein, ffoniwch 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).  

“Os ydych chi’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn datblygu unrhyw un o dri phrif symptom COVID-19 (tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu golli neu newid i synnwyr blasu neu arogli), mae disgwyl i chi ynysu a chael prawf yn unol â’r manylion yn y canllawiau staff sydd ar gael ar y fewnrwyd neu gan eich rheolwr neu oruchwyliwr.”

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn annog pob aelod o staff a chontractwr i gynnal profion llif achrol ac adrodd arnynt, ddwywaith yr wythnos. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth er mwyn diogelu’r rhai sy’n agored i niwed yn ein gofal.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, trowch at wefan y bwrdd iechyd http://hduhb.nhs.wales


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle