Cabinet Clymblaid yr Enfys yn cymeradwyo cynllun lliniaru caledi gwerth £2m ac ysgol Gymraeg ddechreuol newydd 

0
324

Mae Cabinet newydd Clymblaid yr Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno i symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer ‘ysgol ddechreuol’ cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed Castell-nedd Port Talbot ym Mynachlog Nedd.

Ac yng nghyfarfod cyntaf y Cabinet ddydd Mercher (Mehefin 29) rhoddodd aelodau gymeradwyaeth hefyd i Gynllun Lliniaru Caledi Castell-nedd Port Talbot, sy’n werth £2m, gyda chymorth yr asiantaeth bartner Warm Wales / Cymru Gynnes.

Gallai’r ysgol ddechreuol cyfrwng Cymraeg newydd, a fydd yn cael ei lleoli mewn adeilad a arferai gartrefu Ysgol Gynradd Abbey yn Nheras Sant Ioan, Mynachlog Nedd, groesawu’i disgyblion cyntaf fis Ionawr nesaf os bydd yn derbyn cymeradwyaeth lawn.

Fel rhan o strategaeth y cyngor i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref sirol, cytunodd y Cabinet i symud gwaith ar yr ysgol ddechreuol ymlaen i’r cam nesaf – sef cyhoeddi cynnig statudol i sefydlu’r ysgol newydd.

Defnyddir model ‘ysgol ddechreuol’ wrth sefydlu ysgol newydd, gan alluogi’r cyfleusterau a’r staff i gael eu defnyddio’n effeithlon wrth i’r ysgol dyfu i’w llawn botensial.

Yn ôl y cynlluniau, byddai £200,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer gwaith adnewyddu a gwella, gan gynnwys darparu waliau dysgu ac offer digidol, i sicrhau fod yr ysgol yn gallu cyflenwi’r cwricwlwm newydd.

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddi: “Mae gan y cyngor hwn darged deng mlynedd i gynyddu faint o ddisgyblion Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 16.8% yn 2020/21 i 31% (460 disgybl) erbyn 2032, a bydd yr ysgol newydd arfaethedig hon yn helpu i gyflawni’r targed hwnnw.

“Mae hefyd yn cyd-fynd â’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg, sef cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Menter gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cronfa Liniaru Caledi Castell-nedd Port Talbot.

Mae’n ychwanegol at gynllun cefnogi costau byw Llywodraeth Cymru ac fe’i hanelir gefnogi’r preswylwyr hynny sydd fwyaf angen help wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Cytunodd y Cabinet y dylai Warm Wales / Cymru Gynnes, sefydliad a leolir ym Mhort Talbot ac sydd mewn sefyllfa unigryw i bwyso ar ystod o gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol, helpu’r cyngor i ddarparu’r cynllun, gan sicrhau y bydd yn rhoi’r gwerth gorau i’r gronfa galedi.

Meddai’r Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder: “Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu ystod o ymyriadau wedi’u targedu. Gellid darparu ymyriadau ar sail untro, fel talebau trydan ychwanegol mewn argyfwng, neu gefnogaeth fwy hirdymor fel insiwleiddio cartrefi.

“Pwrpas y cynllun yw targedu a rhoi cymorth i’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen, a gwneud hynny o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.”

Mae’r Gronfa Liniaru Caledi’n ddarostyngedig i gyfnod galw i mewn o dridiau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle