Staff Ward Sunderland Ward i wthio gwely dros chwe milltir i godi arian ar gyfer gweithgareddau llesiant

0
299
Mae staff Ward Sunderland, Ysbyty De Sir Benfro yn cymryd rhan mewn her gwthio gwely i godi arian ar gyfer gweithgareddau llesiant.

Mae’r her gwthio gwely i ddigwydd ar 16 Gorffennaf 2022. Yn y gorffennol fu’n her reolaidd, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd pandemig COVID-19. O ganlyniad i godi cyfyngiadau, mae’r staff yn awyddus i ail-ddechrau’r digwyddiad.

Bydd y staff wedi gwisgo fel uwch-arwyr a dihirod ar gyfer yr her ac yn gwthio hen wely gyda ffug-glaf ynddo!

Bydd y daith yn dechrau yn Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro am 1:00pm ar 16 Gorffennaf, yn mynd am dref Penfro ac yna’n dychwelyd i’r ysbyty.

Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at cynnal gweithgareddau hybu llesiant gyda chleifion ar y ward. Mae staff hefyd yn gobeithio defnyddio rhywfaint o’r arian I wahodd artist lleol i’r ward i gynnal sesiynau creadigol gyda’r cleifion.

Meddai Rebecca Richards, Uwch Brif Nyrs Ward Sunderland Ward: “Mae hon yn her anodd dros chwe milltir. Rydym yn croesawu unrhyw gyfraniad a chefnogaeth ar hyd y ffordd ar ddiwrnod yr her.”

Meddai Katie Hancock, swyddog codi arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Wedi rhai blynyddoedd o fethu â chynnal digwyddiadau codi arian fel tîm, rydym yn gyffrous i weld staff Ward Sunderland yn gwthio gwely unwaith eto! Bydd yn hwyl i wylio, felly gofynnwn i chi gefnogi’r tîm od y gallwch.

“Diolch yn fawr i’r staff am drefnu’r digwyddiad ac am gymryd rhan ynddo. Mwynhewch!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle