Haf o Hwyl gwerth £7m yn cychwyn yn swyddogol

0
284

Mae cynllun Haf o Hwyl gwerth £7 miliwn Llywodraeth Cymru yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd y cynllun yn cael ei gynnal rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi gan helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliant a chwarae.

Bydd y gweithgareddau yn rhad ac am ddim ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc 0-25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gymru. Byddant yn cael eu cynnal yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Yr haf diwethaf, ymunodd dros 67,500 o blant mewn amrywiol weithgareddau Haf o Hwyl ledled Cymru gan gynnwys gweithgareddau cerddoriaeth, theatr, chwaraeon yn y môr, dringo a weiren wib.

Mewn gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, dywedodd bron pawb a fynychodd y llynedd eu bod wedi cael hwyl. Dywedodd 88% o’r cyfranogwyr fod y cynllun wedi eu helpu i fod yn fwy egnïol ac roedd 73% yn teimlo iddo eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl. 

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Yn wreiddiol, fe wnaethon ni lansio Haf o Hwyl mewn ymateb i weld plant yn colli cyfleoedd i gymdeithasu yn sgil y pandemig, ond ar ôl gweld pa mor llwyddiannus ydoedd, penderfynom gynnal y cynllun eto.

 “Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol rydyn ni wedi buddsoddi mewn cyfleoedd chwarae, gan sicrhau bod dros £42m ar gael ers 2013.

“Eleni byddwn hefyd yn cefnogi darparwyr i gynnig bwyd yn eu gweithgareddau, gan helpu gyda rhai o’r problemau difrifol sy’n ein hwynebu heddiw o ran plant yn llwgu yn ystod y gwyliau a’r argyfwng costau byw.”

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru i’w gweld ar wefannau awdurdodau lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle