Deg o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru yn ennill yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru
Mae deg o’r gweithwyr addysg proffesiynol mwyaf ysbrydoledig, dawnus ac ymroddedig o bob rhan o Gymru wedi’u datgelu fel enillwyr pumed Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
Gwahoddwyd 29 a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob cwr o Gymru, i ddathlu rhagoriaeth mewn addysg yn y gwobrau ddydd Sul 10 Gorffennaf. Datgelodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, enillwyr y deg categori mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd. Ar ôl i’r seremoni ddiwethaf gael ei gohirio oherwydd Covid-19, rhoddodd y gwobrau rywfaint o bositifrwydd y mae mawr ei angen i’r rhai a gymerodd ran.
Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn cydnabod y gwaith gwych y mae ein gweithwyr addysg proffesiynol yn ei wneud ym mhob cwr o Gymru i fynd yr ail filltir i’n pobl ifanc. Eleni, cyflwynwyd Gwobr newydd Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae’r wobr hon, a enillwyd am y tro cyntaf gan Ysgol Uwchradd Llanwern, yn cael ei rhoi i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth, enwebwyd Llanwern ar gyfer y wobr newydd hon am weithio’n ofalus iawn i feithrin diwylliant sy’n sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn teimlo ymdeimlad o berthyn. Roedd y beirniaid wedi’u plesio’n arbennig gan ddull ysgol gyfan yr ysgol o hyrwyddo amrywiaeth.
Dywedodd Tracey Jarvis o Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd, rhan o’r tîm a enillodd y wobr “Rydym yn hynod falch o fod yr ysgol gyntaf i dderbyn y wobr hon i gydnabod y gwaith rydym yn ei wneud i greu ysgol gynhwysol. Diolch i’n staff, llywodraethwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr am eu hymrwymiad i ddathlu amrywiaeth, sydd wedi’i wreiddio’n yn ein diwylliant o ddydd i ddydd.”
Enillodd Charmaine Riley, sy’n dysgu yn Ysgol Gynradd Radur, wobr Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd am ei phositifrwydd heintus ac am fynd yr ail filltir i gael mynediad at yr adnoddau cywir ar gyfer ei holl ddysgwyr. Charmaine: “Mae ennill y wobr hon yn golygu’r byd i mi. Rwy’n caru fy swydd ac yn teimlo mor lwcus i fod yn dysgu sgiliau gydol oes i’n ddysgwyr. Dydw i ddim yn ei wneud am gydnabyddiaeth, rwy’n ei wneud oherwydd rwy’n credu y dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd.”
Enillodd Christian Williams, Ysgol Gyfun Heolddu. y wobr am Waith Ieuenctid mewn Ysgolion a’r Gymuned. Mae Christian yn defnyddio dull wedi’i deilwra ar gyfer ei ddysgwyr ac nid yw’n ofni rhoi cynnig ar bethau newydd ac mae’n cefnogi ei gydweithwyr i wneud yr un peth. Christian: ‘ “Dwi hollol wrth fy modd ac wedi synnu’n llwyr i ennill y wobr hon. Mae’n ymwneud â chael tîm da o’ch cwmpas, a gyda llawer o waith caled gallwch wneud y pethau mwyaf rhyfeddol i gefnogi ein dysgwyr a’u helpu i fanteisio i’r eithaf ar eu haddysg.”
Cyflwynodd y Gweinidog hefyd enillydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Llywodraeth Cymru er cof am Mr Gareth Pierce, cyn Brif Weithredwr CBAC, am ei gyfraniad i addysg yng Nghymru, yn enwedig addysg Gymraeg.
Enillwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2022:
Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd
Charmaine Riley, Ysgol Gynradd Radyr, Radyr
Athro Newydd Eithriadol
Holly Gordon, Ysgol Bryn Derw ASD Special School, Casnewydd
Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg
Iona Llŷr, Addysg a Gwasanaethau Plant – Cyngor Sir Caerfyrddin
Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
Carolyn Platt, Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn
Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion a’r Gymuned
Christian Williams, Ysgol Gyfun Heolddu, Caerffili
Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd
Mark Morgan, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful
Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol
Claire Coakley, Ysgol Martin Sant, Caerffili
Pennaeth y Flwyddyn
Meurig Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg
Gwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau
Laura Buffee, Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, Hwlffordd
Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – newydd ar gyfer 2022
Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles:
“Mae safon yr enwebiadau eleni, fel erioed, wedi bod yn rhagorol ac yn dangos y doreth o dalent addysgu sydd gennym yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn arbennig o braf gweld Gwobr gyntaf Betty Campbell MBE yn cael ei chyflwyno, cyn i’r Cwricwlwm newydd gael ei addysgu o fis Medi.
“Mae cymaint o enghreifftiau gwych wedi bod o ddyfeisgarwch, arweinyddiaeth, caredigrwydd ac angerdd am addysgu – dim ond rhai o’r rhinweddau niferus a welaf wrth gwrdd â staff mewn ysgolion ym mhob cwr o Gymru.
“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac yn enwedig i’r enillwyr ar eich llwyddiannau.”
Cyflwynwyd tlysau Griffith Jones wedi’u gwneud â llaw yn arbennig i’r holl enillwyr yn y seremoni.
I weld y rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr, ewch i: www.llyw.cymru/gwobrauaddysgu. Ymunwch yn y sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru2022 neu dilynwch @LlC_Addysg. Gallwch wylio’r seremoni o 6pm ar sianel Facebook Addysg Llywodraeth Cymru.
-Diwedd-
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle