Caeriw yn paratoi am haf hudolus o ddrama awyr agored

0
283
Caption: A varied programme of open air theatre performances will take place at Carew Castle this summer.

Bydd y theatr awyr agored yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn, a bydd pedwar perfformiad cyffrous yn cael eu cynnal yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd y rhaglen eleni yn dechrau nos Mawrth 26 Gorffennaf gyda Jane Eyre, sy’n ymgorffori straeon cariad Fictoraidd i’r dim. Mae’r addasiad clasurol hwn wedi’i leoli yn y waun wyntog, ac mae’n cynnig gwledd i bawb sy’n hoffi rhamant dywyll Brontë. Bydd y drysau’n agor am 6pm a bydd y sioe’n dechrau am 7pm.

Ym mis Awst, bydd dau gynhyrchiad i blant yn y lleoliad hyfryd hwn.

Mae Rapunzel – A Tangled Musical yn addasiad cerddorol newydd sbon i’r teulu cyfan o’r stori tylwyth teg glasurol. Mae’n addas i blant 4 oed a hŷn, gyda digonedd o hud a lledrith, miri a chyfle i gwrdd â’r cymeriadau ar ôl y sioe. Bydd yr antur hon yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 9 Awst am 5.30pm, gyda’r drysau’n agor am 4.45pm.

Ddydd Mawrth 23 Awst, bydd Awful Auntie David Walliams yn disgleirio ar lwyfan Caeriw. Yn seiliedig ar seithfed llyfr yr awdur poblogaidd i blant, mae Awful Auntie yn adrodd hanes Stella Saxby, sy’n cael ei phoenydio gan ei Modryb Alberta a’i thylluan enfawr. Mae’r ddau ddieflig yn benderfynol o gymryd ei hetifeddiaeth oddi wrthi, a mae’r cynhyrchiad yn siŵr o godi gwên. Mae’r perfformiad yn addas i’r rheini sydd dros 7 oed, mae’r drysau’n agor am 5.45pm ac mae’r sioe’n dechrau am 6.30pm.

Dracula fydd perfformiad olaf y tymor nos Sadwrn 3 Medi. Yn yr addasiad newydd sbon hwn o arswyd gothig clasurol Bram Stoker gan British Touring Shakespeare, mae’r Athro Abraham Van Helsing, arbenigwr yn yr goruwchnaturiol, yn cyflwyno ei achos mwyaf dychrynllyd eto, ar ôl cael ei alw i helpu menyw ifanc sy’n mynd yn sâl yn anesboniadwy yn ystod taith i Whitby. Mae’r ddrama hon yn cynnwys themâu i oedolion a allai fod yn anaddas i aelodau iau o’r gynulleidfa, felly cynghorir rhieni i ddewis a yw’n addas i’w plant ai peidio. Bydd y drysau’n agor am 4.45pm, a’r sioe yn dechrau am 5.30pm.

Rhaid archebu lle ar gyfer pob perfformiad.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae ein perfformiadau theatr awyr agored wedi bod yn boblogaidd dros ben dros y blynyddoedd diwethaf, felly byddem yn argymell eich bod yn archebu’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

“Nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal mewn tywydd gwlyb. Bydd angen i’r rheini sy’n dod i unrhyw un o’r digwyddiadau ddod â charthen neu gadair â chefn isel i eistedd arni, picnic a dillad addas i sicrhau eu bod yn gyfforddus am noson bleserus.”

Cost tocynnau ar gyfer pob digwyddiad yw £15 i oedolion, £12.50 gyda gostyngiad, £10 i blant a £46 i deulu o bedwar (dau oedolyn a dau o blant).

Gellir archebu tocynnau ar gyfer Jane Eyre drwy ffonio 01646 651782. Gellir archebu tocynnau ar gyfer pob sioe arall drwy fynd i www.carewcastle.com.

Mae’r Castell a’r Felin Heli yn agored bob dydd gydol yr haf o 10am-4.30pm (mynediad olaf am 4pm), gyda’r Ystafell De Nest yn gweini cinio ysgafn, lluniaeth a chacennau cartref.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle