Cwblhaodd staff Aber Instruments sialens 6,996 milltir rhyngddynt a rhoi swm gwych o £7,000 i Apêl Cemo Bronglais.

0
206

Cymerodd pob un o’r 69 o weithwyr – 65 yn Aberystwyth a phedwar mewn is-swyddfa yn America – ran yn y dasg.

A dywedodd cydlynydd recriwtio’r cwmni, Christina Evans: “Rydym wrth ein bodd gyda’r swm a roddwyd. Mae’n achos mor deilwng, lleol.”

Gwnaeth staff gyfuniad o gerdded, rhedeg, beicio a dringo ac fe’u hanogwyd i feddwl y tu allan i’r bocs, gyda gwobr i’w hennill am y filltir fwyaf dyfeisgar, a aeth i hwla-hooper yn UDA.

Ychwanegodd Christina: “Meddyliodd pobl am ffyrdd mor wych o deithio ar hyd y milltiroedd. Yn ogystal â hwla-hoop, roedd gwthio berfa, padlfyrddio a dawnsio yn yr ardd.

“Roedden ni eisiau cefnogi Apêl Cemo Bronglais. Mae’n apêl sy’n agos at galonnau pawb gyda llawer o bobl yn cael eu cyffwrdd gan ganser, gan gynnwys rhai o’n staff ein hunain. Felly, fe wnaethon ni feddwl am y syniad o deithio 6,996 milltir, sef y pellter o Aberystwyth

i’n swyddfa yn Washington ac yn ôl.”

Mae Aber Instruments yn gwneud offerynnau ar gyfer y diwydiannau biotechnoleg a bragu, mae wedi bod ar waith ers dros 30 mlynedd ac mae bellach yn eiddo i’r gweithwyr.

Ychwanegodd Christina: “Mae ein helw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni ond mae un y cant o’n helw bob blwyddyn yn mynd i elusennau lleol ac o’n cronfa elusen y gwnaed y rhodd i’r Apêl.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, a lansiodd yr Apêl: “Hoffem ddiolch i staff Aber Instruments am eu rhodd anhygoel.

“Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais ac rydym mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth leol i’r Apêl.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle