MAE prosiect peilot newydd ar waith ledled Sir Gaerfyrddin i annog blodau brodorol i dyfu ac i ddarparu bwyd i bryfed peillio.
Cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin gyllid o dan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect peilot i dreialu ffyrdd newydd o reoli ein mannau gwyrdd.
Nid yw’r prosiect yn cynnwys plannu na hau blodau gwyllt ond yn hytrach mae’n golygu newid yn y ffordd yr ydym yn torri gwair i annog banc hadau brodorol o blanhigion blodeuol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau anfrodorol.
Mae’n golygu torri’r gwair yn yr ardaloedd hyn ychydig yn llai aml, ei dorri ychydig yn uwch a chael gwared â’r toriadau gwair.
Defnyddiwyd cyllid Llywodraeth Cymru i brynu dau beiriant ‘torri a chasglu’ i gael gwared â’r toriadau gwair yn hytrach na’u gadael ar y llawr, a fydd dros amser yn annog mwy o blanhigion blodeuol yn y glaswelltir.
Hefyd dylai torri’r gwair ychydig yn llai aml ganiatáu i blanhigion â thymor blodeuo byr gwblhau eu cylch blodeuo llawn a chynyddu’r neithdar sydd ar gael i bryfed.
Mae’r cynllun peilot yn cael ei gynnal mewn 31 ardal ar draws y sir, gan gynnwys 13 safle tai, chwe safle tai gwarchod, pedwar safle o fewn ystadau, ac wyth safle arall sy’n cael eu rheoli gan dîm cynnal a chadw tiroedd y cyngor.
Bydd rhai ardaloedd yn cael eu torri fel arfer lle cânt eu defnyddio’n rheolaidd gan breswylwyr, a bydd yr holl ymylon llwybrau yn cael eu torri’n rheolaidd. Mae arwyddion wedi cael eu gosod i egluro’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud, a bydd swyddogion yn monitro’r ardaloedd hyn er budd bioamrywiaeth.
Mae’r cyngor yn gobeithio gweithio gyda thrigolion lleol i helpu i fonitro’r safleoedd ac mae’n bwriadu cynnwys ysgolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu, gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol a helpu pryfed peillio ble bynnag y gallwn.
“Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng cael lleoedd i fwynhau a chwarae a chaniatáu i fyd natur ffynnu.
“Mae gennym lawer i’w ddysgu fel rhan o’r cynllun peilot hwn, a byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd, ac yn gwrando ar adborth trigolion.
“Ond yn ogystal â helpu pryfed peillio ar lefel leol, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn y pen draw yn darparu mannau gwyrdd o ansawdd gwell lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn dysgu.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r tudalennau bioamrywiaeth ar wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle