Cigyddion Cymru’n hogi eu sgiliau mewn ymgais i fod yn bencampwyr byd

0
344
Wales Butchery Team: Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru (rhes gefn o’r chwith): Ben Roberts a Dan Raftery, (rhes ganol) Matthew Edwards a Craig Holly, (rhes flaen) Tom Jones, Peter Rushforth a Liam Lewis.

Mae tîm o gigyddion crefftus o Gymru wrthi’n brysur yn ymarfer ac yn hogi eu sgiliau wrth baratoi ar gyfer Her Cigyddion y Byd yn yr Unol Daleithiau yn yr hydref.

Bydd Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf yn yr ornest fyd-eang pan ddaw 14 o wledydd ynghyd yn Sacramento, California ar 2 a 3 Medi. Ein cefndryd Celtaidd o Iwerddon oedd y pencampwyr y tro diwethaf.

Cafodd y tîm, sy’n rhan o Gymdeithas Goginio Cymru, ei ffurfio yn 2020 ac fe’i rheolir gan gigydd wedi ymddeol a beirniad profiadol, Steve Vaughan o Ben-y-ffordd.

Peter Rushforth o Innovative Food Ingredients, Lytham St Annes, yw capten y tîm a’r aelodau eraill yw Craig Holly, o Chris Hayman Butchers, Maesycwmer, Hengoed;

Tom Jones o Jones Brothers, Wrecsam; Matthew Edwards, darlithydd yng Ngholeg Cambria, Cei Connah; Dan Raftery o Meat Masters Butchers, y Drenewydd; Liam Lewis o Hawarden Farm Shop a Ben Roberts o M. E. Evans Butchers, Owrtyn.

Noddwyr y tîm yw Bwyd a Diod Cymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod, Atlantic Service Company o Gasnewydd, Kepak o Ferthyr Tudful, AIMS (Association of Independent Meat Suppliers), Hybu Cig Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Innovative Food Ingredients, M. E. Evans Butchers, Dick Knives a Tiny Rebel.

Gan fod cigyddion o bedwar ban byd yn ymgiprys am gael bod yn bencampwyr byd, gelwir y gystadleuaeth yn ‘Gemau Olympaidd y Cig’. 

 

Cynhelir yr ornest dros dair awr a chwarter, gyda’r timau’n cael ystlys cig eidion, ystlys porc, oen cyfan a phum ffowlyn i’w trawsnewid yn arddangosfa o gynhyrchion gwerth-ychwanegol ar thema benodol.  

Caiff y timau ddod â’u sesnin, eu sbeisys, eu marinadau a’u garneisiau gyda nhw wrth greu cynnyrch a fydd yn ysbrydoli ac yn gwthio’r ffiniau ond a fydd yn hwylus i’w coginio ac yn debygol o werthu.

Mae’r beirniaid annibynnol yn rhoi sgôr i bob tîm ar sail techneg a medrusrwydd, crefftwaith, dyfeisgarwch, gorffeniad cyffredinol a chyflwyniad.

Bydd Ben Roberts yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y Byd ar gyfer Prentisiaid Cigyddion. Caiff yr ornest hon ei seilio ar Her Cigyddion y Byd a dim ond dwy awr a chwarter sydd gan brentisiaid cigyddion i drefnu nifer o ddarnau sylfaenol o gig yn arddangosfa o gynhyrchion a bennwyd ymlaen llaw a’u creadigaethau nhw eu hunain. 

Canmolwyd ymroddiad aelodau’r tîm, sy’n cyfarfod bob wythnos ac yn ymarfer bob pythefnos, gan gydlynydd Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, Chris Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Wales Butchery Team: The Craft Butchery Team Wales (from left) Tom Jones, Liam Lewis, Matthew Edwards, Peter Rushforth, Ben Roberts, Dan Raftery and Craig Holly.

“Mae’n brofiad hollol newydd i’r cigyddion oherwydd dyma fydd eu cystadleuaeth gyntaf fel tîm a does dim cystadleuaeth fwy na Her Cigyddion y Byd,” meddai Mr Jones, y beirniad a fydd yn cynrychioli Cymru.

“Os nad oes ganddyn nhw brofiad o gystadlu fel tîm, maen nhw’n mwy na gwneud iawn am hynny â’u hymroddiad.  Maen nhw’n griw clòs sy’n nabod ei gilydd ers amser maith ac mae’r ymarfer yn mynd yn dda iawn.

“Maen nhw i gyd yn amlwg yn falch o gael cynrychioli Cymru, achos does dim llawer o bobl yn cael y cyfle hwnnw, ac fe wnawn ein gorau glas i chwifio baner Cymru mewn steil.

“Mae’r gystadleuaeth yn fwy o lawer eleni nag o’r blaen, felly nid Cymru fydd yr unig wlad i gystadlu am y tro cyntaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle