Brownis ysgol Cwm Gwendraeth yn cael eu lansio yn Sioe Frenhinol Cymru

0
247

Mae Bara Brith Brownies, a gafodd eu creu gan ddisgyblion ysgol uwchradd o Sir Gaerfyrddin fel rhan o gystadleuaeth, yn cael eu lansio yn Sioe Frenhinol Cymru.

Yn gynharach eleni, daeth criw o fyfyrwyr blwyddyn naw o Ysgol Maes y Gwendraeth yn bedwerydd yn yr Her Gyrfaoedd Blasus, menter rhwng Gyrfa Cymru, Bwydydd Castell Howell, yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (Cymru), a Bwytai Seren, sy’n anelu at amlygu’r gyrfaoedd amrywiol yn y sector bwyd.

Yn y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar draws ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, datblygodd y grŵp o ddisgyblion 13 ac 14 oed eu cais, Bara Brith Brownies.

Gwnaeth eu creadigaeth gymaint o argraff ar Bwydydd Castell Howell nes i’r cwmni benderfynu lansio’r brownis Cymreig yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf mewn digwyddiad a noddir gan Sgiliau Bwyd Cymru. 

Bydd y brownis yn cael eu cynnwys yng nghatalog Bwydydd Castell Howell a byddant ar gael i’w holl gwsmeriaid arlwyo eu prynu.

Meddai Aled Evans, un o gynghorwyr cyswllt busnes Gyrfa Cymru a helpodd i gydlynu’r her: “Dyma enghraifft wych o sut y gall ymgysylltiad Gyrfa Cymru â busnesau helpu i ehangu dyheadau ac agor llygaid disgyblion i gyfleoedd helaeth y byd gwaith.

“Dechreuodd Bara Brith Brownies fel rhan o gystadleuaeth ranbarthol i ysgolion uwchradd, a nawr mae ganddyn nhw gyfle i fod ar gael drwy un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol y DU.

“Mae’n dangos yr effaith y gellir ei chael pan fydd cyflogwyr ac ysgolion yn cydweithio i helpu i feithrin sgiliau busnes gwerthfawr ac ehangu gorwelion gyrfa pobl ifanc.

“Mae lansio eich cynnyrch mewn digwyddiad Cymreig mor fawr yn freuddwyd i lawer o ddarpar artistiaid coginio, felly bydd hyn yn aros yng nghof y myfyrwyr am gryn amser.”

Meddai James Hicks, rheolwr datblygu strategol yn yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (Cymru): “Mae’r Her Blasus yn ymwneud â chydweithio ac arddangos talent ffres.

“Mae llwyddiant Bara Brith Brownies yn helpu i ddangos pa mor hawdd yw cael gyrfa yn y sector bwyd. Mae amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ar gael, ambell un yn gofyn am gymwysterau academaidd, a hynny mewn diwydiant cyffrous a phrysur.”

Bara Brith Brownies presented at the Tasty Careers Challenge

Mae Partneriaeth Addysg Busnes Gyrfa Cymru yn darparu cyfleoedd i ysgolion a chyflogwyr helpu disgyblion i wneud cysylltiadau rhwng eu gwersi a’r byd gwaith. Mae’n galluogi cyflogwyr i roi cipolwg o’r byd go iawn ac ysbrydoliaeth i ddarpar weithwyr y dyfodol ac yn helpu i hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.

Meddai Kath Jones, cyfarwyddwr gwerthu Bwydydd Castell Howell: “Cyn gynted ag y gwnaethom flasu’r brownis a deall y cysyniad, roeddem yn teimlo bod y syniad hwn yn rhy dda i beidio â’i rannu â’n cwsmeriaid.

“Fe wnaethom gysylltu ag un o’n prif gyflenwyr cynnyrch pobi, Capital Cuisine, ym Medwas, i’n helpu i droi’r cysyniad yn realiti. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r deunyddiau gwerthu a marchnata gyda’r ysgol a hyrwyddo llwyddiant y fenter gydweithredol hon.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Gyrfa Cymru gefnogi eich busnes neu ysgol, ewch i wefan Gyrfa Cymru neu cysylltwch â cyswlltcyflogwyr@gyrfacymru.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle