Darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael cyflogaeth leol yn y dyfodol

0
272
Skills Pilot Launch

Mae prosiect peilot unigryw wedi’i gymeradwyo yn Sir Benfro a fydd yn dwyn ynghyd myfyrwyr a chwmnïau sy’n arbenigo yn y sector ynni adnewyddadwy, gan greu fframwaith a arweinir gan y diwydiant Ynni Glas-Gwyrdd a fydd yn paratoi talent ifanc ar gyfer y cyfleoedd gwaith lleol sydd ar y gweill.

Dyma’r prosiect peilot cyntaf i gael ei gymeradwyo gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Mae hyn yn rhan o Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £30 miliwn, lle bydd Coleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a busnesau lleol yn cydweithio i ddarparu’r Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro.

Skills Pilot Launch

Gan ddechrau ym mis Medi 2022, bydd myfyrwyr rhwng 5 a 19 oed yn elwa ar y prosiect hwn a bydd yn cael ei ddysgu gan Goleg Sir Benfro, Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur drwy gyfrwng pum maes allweddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am ynni adnewyddadwy gan gynnwys ynni’r tonnau, y llanw a’r haul, ac ynni gwynt ar y môr a’r tir gyda chymorth cwmnïau sy’n arbenigo yn y maes hwn gan gynnwys EDF Renewables UK DP Energy, Blue Gem Wind, Bombora Wave ac Ore Catapult.

Datblygwyd y prosiect cyffrous hwn drwy weithio’n agos gyda phrosiect Ardal Forol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’n nodi’r bylchau mewn sgiliau yn y fframweithiau addysg presennol ar gyfer dysgu am ynni adnewyddadwy, lle disgwylir y bydd galw mawr am weithwyr yn y dyfodol drwy’r Fargen Ddinesig a phrosiectau eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Skills Pilot Launch

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe “Mae’n wych gweld cynllun peilot cyntaf Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei gymeradwyo ac mae’n wych gweld dau o’n prosiectau yn cydweithio i ddarparu dysgu y mae mawr ei angen ar ynni adnewyddadwy. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun peilot hwn yn ardal glwstwr Aberdaugleddau yn llwyddiannus gan ein bod yn rhagweld y bydd yn cael ei gyflwyno i ardaloedd eraill ledled Sir Benfro, De-orllewin Cymru ac yn genedlaethol yn y blynyddoedd i ddod.

“Rydym yn sicr y bydd y fenter arloesol hon yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn barod am swyddi yn y sector ynni adnewyddadwy, a thrwy adeiladu ar ein harbenigedd yn y diwydiant lleol rydym yn gobeithio creu canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro. Bydd yn trawsnewid ffyniant cyflogaeth yn y sir a’r rhanbarth ehangach a bydd yn gweithio ochr yn ochr â mentrau eraill a fydd yn datblygu sgiliau ein gweithlu presennol hefyd.”

“Mae’r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn cydgysylltu â phob un o’r 8 prosiect arall y Fargen Ddinesig a bydd yn helpu i dyfu ein rhanbarth, drwy gadw ein myfyrwyr talentog drwy ddarparu cyfleoedd iddynt aros yn lleol pan fyddant yn barod i gael gwaith. Rydym yn adolygu cynigion prosiectau peilot eraill ar hyn o bryd ac yn gobeithio gwneud cyhoeddiadau’n fuan am ragor o fentrau cyffrous a fydd yn helpu i lunio ein dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, Cyngor Sir Penfro “Fel awdurdod lleol rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r offer fydd ei angen ar bobl ifanc a fydd yn galluogi’r rhanbarth hwn i gael gweithlu medrus ym maes peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Skills Pilot Launch

Dywedodd Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro “Rydym wrth ein bodd mai’r dull partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, cwmnïau ynni lleol a ninnau yw’r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo drwy gynllun Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at weithredu nifer o fentrau arloesol sy’n dechrau ym mis Medi a fydd yn codi ymwybyddiaeth am ynni adnewyddadwy ac yn helpu i ddarparu’r set sgiliau fydd ei angen ar bobl ifanc y sir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. ”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle